RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau – diogelu
Diogelu – gofynion cyffredinol20
Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli ganddo yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.
Polisïau a gweithdrefnau diogelu21
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—
a
ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a
b
ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.
2
Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau oʼr fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
4
Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
gweithredu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau diogelu,
b
cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob plentyn y darperir gofal a chymorth ar ei gyfer,
c
gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a
d
cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.
Defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodol22
1
Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth.
2
Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau wahardd gofal a chymorth rhag cael eu darparu mewn ffordd syʼn cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal plentyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—
a
yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir iʼr plentyn neu i bersonau eraill neu ddifrod difrifol tebygol i eiddo, a
b
yn ymateb cymesur i risg oʼr fath.
3
Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth gael eu hyfforddi mewn unrhyw ddulliau rheoli neu atal sydd iʼw defnyddio.
4
Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth—
a
gwneud cofnod o unrhyw ddigwyddiad pan ddefnyddir rheolaeth neu ataliaeth, a
b
hysbysu’r darparwr gwasanaeth am unrhyw ddigwyddiad o’r fath o fewn 24 awr.
5
Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir gan rieni maeth yn cael ei chyflawni yn unol âʼr polisïau aʼr gweithdrefnau hyn.
6
At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neuʼn atal plentyn os ywʼr person hwnnw—
a
yn defnyddio, neuʼn bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y maeʼr plentyn yn ei gwrthsefyll, neu
b
yn cyfyngu ar ryddid symud y plentyn, pa un a ywʼr plentyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys drwy ddefnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.
7
At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “niwed” yr un ystyr ag yn adran 22(10) o Ddeddf 2016.
Gwaharddiad ar ddefnyddio cosb gorfforol23
Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw rhieni maeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn.
Amddifadu o ryddid24
Ni chaniateir amddifadu plentyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.
Polisi a gweithdrefnau ar fwlio25
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael yn eu lle bolisi ar atal bwlio a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio.
Y weithdrefn pan yw plentyn yn absennol heb ganiatâd26
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gweithdrefn i’w dilyn pan yw unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth gan y darparwr yn absennol heb ganiatâd.