- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rhagolygol
29. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—
(a)iʼr datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,
(b)i anghenion gofal a chymorth plant,
(c)iʼr angen i gefnogi plant i gyflawni eu canlyniadau personol,
(d)iʼr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant, ac
(e)i ofynion y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 29 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
30.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—
(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny,
(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny, nac
(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi â phlant syʼn cael gofal a chymorth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—
(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da,
(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd aʼr profiad syʼn angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae iʼw wneud,
(c)bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawniʼn briodol y tasgau syʼn rhan annatod oʼi rôl,
(d)bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un oʼr materion sy’n ofynnol o dan baragraffau 1 i 9 o Atodlen 1, a bod yr wybodaeth hon neuʼr ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i Weinidogion Cymru edrych arni, ac
(e)pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, o 1 Ebrill 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol(1) â GCC.
(3) Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid ywʼr gofyniad hwn yn gymwys os ywʼr person syʼn gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaruʼr GDG).
(4) Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.
(5) Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.
(6) Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny, rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.
(7) Os nad yw person sy’n gweithio yn y gwasanaeth maethu yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i ddiogelu plant, a
(b)pan fo’n briodol, hysbysu—
(i)GCC,
(ii)y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 30 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
31.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—
(a)yn cael cyfnod sefydlu syʼn briodol iʼw rôl,
(b)yn cael ei wneud yn ymwybodol oʼi gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill,
(c)yn cael ei oruchwylio aʼi arfarnuʼn briodol,
(d)yn cael hyfforddiant craidd syʼn briodol iʼr gwaith sydd iʼw wneud ganddo,
(e)yn cael hyfforddiant arbenigol fel y boʼn briodol, ac
(f)yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach syʼn briodol iʼr gwaith y maeʼn ei wneud.
(3) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn rheolwr yn cael ei gefnogi i gynnal unrhyw gofrestriad â GCC.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 31 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
32. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i GCC ei gyhoeddi o dan adran 112(1)(b) o Ddeddf 2016.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 32 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
33.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau addas yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol y mae’n ofynnol i GCC eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o Ddeddf 2016.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 33 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
34.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.
(2) Rhaid iʼr weithdrefn ddisgyblu gynnwys—
(a)darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogeion er budd diogelwch neu lesiant plant sy’n cael gofal a chymorth gan y gwasanaeth, a
(b)darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.
(3) At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—
(a)un o swyddogion Gweinidogion Cymru,
(b)y darparwr gwasanaeth,
(c)yr unigolyn cyfrifol,
(d)swyddog i’r awdurdod lleol,
(e)yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog iʼr Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu
(f)swyddog heddlu,
yn ôl y digwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 34 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
35.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth gyflogi i weithio, at ddibenion y gwasanaeth maethu, mewn swydd y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, berson sydd—
(a)yn rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gan y gwasanaeth maethu, neu
(b)yn aelod o aelwyd rhiant maeth oʼr fath.
(2) Maeʼr paragraff hwn yn gymwys i unrhyw swydd reoli, swydd gwaith cymdeithasol neu swydd broffesiynol arall, oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud yn achlysurol, fel gwirfoddolwr, neu am ddim mwy na 5 awr mewn unrhyw wythnos, yn achos swydd nad yw’n swydd reoli nac yn swydd gwaith cymdeithasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 35 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Gweler adran 79(1)(b) o Ddeddf 2016 am y diffiniad o “rheolwr gofal cymdeithasol”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: