RHAN 8Staffio
Staffio - gofynion cyffredinol29.
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—
(a)
iʼr datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,
(b)
i anghenion gofal a chymorth plant,
(c)
iʼr angen i gefnogi plant i gyflawni eu canlyniadau personol,
(d)
iʼr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant, ac
(e)
i ofynion y Rheoliadau hyn.
Addasrwydd staff30.
(1)
Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—
(a)
cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny,
(b)
caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny, nac
(c)
caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi â phlant syʼn cael gofal a chymorth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2)
At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—
(a)
bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da,
(b)
bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd aʼr profiad syʼn angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae iʼw wneud,
(c)
bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawniʼn briodol y tasgau syʼn rhan annatod oʼi rôl,
(d)
bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un oʼr materion sy’n ofynnol o dan baragraffau 1 i 9 o Atodlen 1, a bod yr wybodaeth hon neuʼr ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i Weinidogion Cymru edrych arni, ac
(e)
(3)
Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid ywʼr gofyniad hwn yn gymwys os ywʼr person syʼn gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaruʼr GDG).
(4)
Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.
(5)
Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.
(6)
Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny, rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.
(7)
Os nad yw person sy’n gweithio yn y gwasanaeth maethu yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)
cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i ddiogelu plant, a
(b)
pan fo’n briodol, hysbysu—
(i)
GCC,
(ii)
y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cefnogi a datblygu staff31.
(1)
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
(2)
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—
(a)
yn cael cyfnod sefydlu syʼn briodol iʼw rôl,
(b)
yn cael ei wneud yn ymwybodol oʼi gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill,
(c)
yn cael ei oruchwylio aʼi arfarnuʼn briodol,
(d)
yn cael hyfforddiant craidd syʼn briodol iʼr gwaith sydd iʼw wneud ganddo,
(e)
yn cael hyfforddiant arbenigol fel y boʼn briodol, ac
(f)
yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach syʼn briodol iʼr gwaith y maeʼn ei wneud.
(3)
Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn rheolwr yn cael ei gefnogi i gynnal unrhyw gofrestriad â GCC.
Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwr32.
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i GCC ei gyhoeddi o dan adran 112(1)(b) o Ddeddf 2016.
Gwybodaeth ar gyfer staff33.
(1)
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.
(2)
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau addas yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol y mae’n ofynnol i GCC eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o Ddeddf 2016.
Gweithdrefnau disgyblu34.
(1)
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.
(2)
Rhaid iʼr weithdrefn ddisgyblu gynnwys—
(a)
darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogeion er budd diogelwch neu lesiant plant sy’n cael gofal a chymorth gan y gwasanaeth, a
(b)
darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.
(3)
At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—
(a)
un o swyddogion Gweinidogion Cymru,
(b)
y darparwr gwasanaeth,
(c)
yr unigolyn cyfrifol,
(d)
swyddog i’r awdurdod lleol,
(e)
yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog iʼr Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu
(f)
swyddog heddlu,
yn ôl y digwydd.
Cyfyngiadau ar gyflogaeth35.
(1)
Ni chaiff y darparwr gwasanaeth gyflogi i weithio, at ddibenion y gwasanaeth maethu, mewn swydd y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, berson sydd—
(a)
yn rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gan y gwasanaeth maethu, neu
(b)
yn aelod o aelwyd rhiant maeth oʼr fath.
(2)
Maeʼr paragraff hwn yn gymwys i unrhyw swydd reoli, swydd gwaith cymdeithasol neu swydd broffesiynol arall, oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud yn achlysurol, fel gwirfoddolwr, neu am ddim mwy na 5 awr mewn unrhyw wythnos, yn achos swydd nad yw’n swydd reoli nac yn swydd gwaith cymdeithasol.