RHAN 1Cyffredinol
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 20102;
ystyr “awdurdod ardal” (“area authority”) yw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr ar gyfer yr ardal y mae’r plentyn wedi ei leoli ynddi, neu i’w leoli ynddi, pan fo hyn yn wahanol i’r awdurdod lleoli;
ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—
- a
cyngor sir yn Lloegr,
- b
cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr nad oes cyngor sir ar ei chyfer,
- c
cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu
- d
Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;
- a
ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”), mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yw’r awdurdod lleol hwnnw;
ystyr “camdriniaeth” a “cam-drin” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol, ac mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys y canlynol—
- a
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn,
- b
bod person yn cael ei dwyllo,
- c
bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall, neu
- d
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;
- a
ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”) yw—
- a
y canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno eu cyflawni, neu
- b
y canlyniadau y mae unrhyw bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant yn dymuno eu cyflawni mewn perthynas â’r plentyn;
- a
mae i “cyflogai” yr un ystyr ag “employee” yn adran 230(1) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 19963;
ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun ar gyfer y plentyn a wneir o dan adran 83 o Ddeddf 20144;
ystyr “cytundeb gofal maeth” (“foster care agreement”) yw’r cytundeb ysgrifenedig sy’n cwmpasu’r materion a bennir yn Atodlen 3 i Reoliadau 2018;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw’r ddogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu yn unol â rheoliad 3(c) o Reoliadau Cofrestru 2017 ac Atodlen 2 iddynt ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn perthynas ag ef5;
ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;
ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 20126;
mae i “gweithiwr” yr un ystyr â “worker” yn adran 230(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yn y gofrestr a gynhelir gan GCC7 o dan adran 80 o Ddeddf 2016, yn Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 20018 neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
ystyr “lleoliad” (“placement”) yw lleoli plentyn gyda rhiant maeth o dan adran 81(5), (6)(a) a (b) o Ddeddf 2014;
mae i “plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol” (“child who is looked after by a local authority”) yr un ystyr ag yn adran 74 o Ddeddf 2014;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 20159;
ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 201810;
ystyr “Rheoliadau Cofrestru 2017” (“the 2017 Registration Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 201711;
mae “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;
ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw person sydd wedi cael ei gymeradwyo fel rhiant maeth yn unol â Rheoliadau 2018, ac mae’n cynnwys person y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth);
mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—
- a
personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a
- b
personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,
- a
ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr;
ystyr “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yw gwahaniaethu neu ataliaeth anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 200512;
ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 1;
ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn a ddynodir gan ddarparwr gwasanaeth wrth wneud cais i gofrestru o dan adran 6 o Ddeddf 2016;
ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig13 sydd—
- a
yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200614, neu
- b
yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno.
- a