RHAN 2Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben4

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

b

pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (4) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

4

Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) yw—

a

Gweinidogion Cymru,

b

unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth gan y darparwr gwasanaeth, oni bai na fyddai’n briodol gwneud hynny o ystyried oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth,

c

rhieni unrhyw blentyn oʼr fath,

d

rhieni maeth a darpar rieni maeth,

e

personau sy’n gweithio at ddibenion y gwasanaeth maethu,

f

yr awdurdod lleoli.

5

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant plentyn.