Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 42

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Rhagolygol

Polisi a gweithdrefnau cwynoLL+C

42.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.

(2Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr gwasanaeth gan neu ar ran plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr ynghylch—

(a)y darparwr,

(b)rhieni maeth, ac

(c)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(3Rhaid i’r polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir i’r darparwr gwasanaeth gan neu ar ran unrhyw blant eraill y gall y lleoliad sy’n cael ei wneud effeithio arnynt ynghylch—

(a)y darparwr, a

(b)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(4Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr gwasanaeth gan rieni maeth ynghylch—

(a)y darparwr, a

(b)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(5Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr gwasanaeth gan rieni unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr ynghylch—

(a)y darparwr, a

(b)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(6Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion, gan gynnwys trefniadau ar gyfer—

(a)nodi cwynion ac ymchwilio iddynt,

(b)rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw,

(c)sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad, a

(d)cadw cofnodion syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) i (c).

(7Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion ac unrhyw gamau gweithredu dilynol a gymerir i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(8Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)dadansoddi gwybodaeth syʼn ymwneud â chwynion a phryderon, a

(b)gan roi sylw iʼr dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd iʼw gwella.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 42 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help