Rhagolygol
Dyletswydd i benodi rheolwrLL+C
50.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.
(2) Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, yr amodau yw—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth,
(b)bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth,
(c)yn ddarostyngedig i baragraff (6), bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr â GCC, a
(d)bod Gweinidogion Cymru yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.
(3) Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig, yr amodau yw—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i’w benodi i reoli’r gwasanaeth,
(b)bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth,
(c)yn ddarostyngedig i baragraff (6), bod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr â GCC, a
(d)bod Gweinidogion Cymru yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.
(4) At ddibenion paragraff (2)(b), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 30(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.
(5) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.
(6) Nid yw’r amod ym mharagraffau (2)(c) a (3)(c) ond yn gymwys o 1 Ebrill 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 50 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)