Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Dynodiad unigolyn cyfrifol gan Weinidogion Cymru
72. Caiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion adran 21(2) o Ddeddf 2016 wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, o dan yr amgylchiadau a ganlyn—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn sydd wedi marw ac mae cynrychiolwyr personol y darparwr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru nad ydynt yn bwriadu gwneud cais o dan adran 11(1)(c) o Ddeddf 2016;
(b)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn ac wedi hysbysu Gweinidogion Cymru—
(i)na all gydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach, a
(ii)y rhesymau dros hyn;
(c)bod y darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth ac wedi hysbysu Gweinidogion Cymru—
(i)nad yw’r unigolyn sydd wedi ei ddynodi gan y darparwr gwasanaeth fel yr unigolyn cyfrifol yn gallu cydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach,
(ii)y rhesymau dros hyn, a
(iii)nad oes unrhyw unigolyn arall sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol ac sy’n gallu cydymffurfio â dyletswyddau unigolyn cyfrifol.
Back to top