- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 30(2) a (3)
1. Prawf o bwy ywʼr person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A oʼr Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan foʼn gymwys, âʼr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2) (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).
3. Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).
4. Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.
5. Pan fo person wedi gweithioʼn flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, iʼr graddau y boʼn rhesymol ymarferol, oʼr rheswm pam y daeth y gyflogaeth neuʼr swydd i ben.
6. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.
7. Pan foʼn berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â GCC.
8. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.
9. Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff oʼr fath.
10. At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—
(a)os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—
(i)os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 30(3) neu (6), a
(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;
(b)os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.
2006 p. 47.Mae adrannau newydd 30A a 30B i’w rhoi yn lle adrannau 30 i 32 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y’i deddfwyd yn wreiddiol o ganlyniad i amnewidiadau a wnaed gan adran 72(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012. Mae adran 72(1) i’w chychwyn ar ddiwrnod sydd i’w bennu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: