ATODLEN 1

Rheoliad 30(2) a (3)

RHAN 1Gwybodaeth a dogfennaeth sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau syʼn gweithio mewn gwasanaethau maethu

I11

Prawf o bwy ywʼr person gan gynnwys ffotograff diweddar.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I22

Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 199721, copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A oʼr Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan foʼn gymwys, âʼr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200622 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I33

Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I44

Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I55

Pan fo person wedi gweithioʼn flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, iʼr graddau y boʼn rhesymol ymarferol, oʼr rheswm pam y daeth y gyflogaeth neuʼr swydd i ben.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I66

Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I77

Pan foʼn berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â GCC.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I88

Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I99

Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff oʼr fath.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Dehongli Rhan 1

I1010

At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—

a

os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

i

os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 30(3) neu (6), a

ii

os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;

b

os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.