Rheoliadau 2 a 39

ATODLEN 2Y cofnodion sydd iʼw cadw gan ddarparwyr gwasanaethau

1.  Cofnod syʼn dangos mewn cysylltiad â phob plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth—

(a)dyddiad lleoliʼr plentyn;

(b)cynllun gofal a chymorth y plentyn;

(c)y cytundeb gofal maeth mewn cysylltiad âʼr plentyn;

(d)enw a chyfeiriad y rhieni maeth;

(e)y dyddiad y daeth lleoliad y plentyn yno i ben;

(f)cyfeiriad y plentyn cyn y lleoliad;

(g)cyfeiriad y plentyn wrth iddo ymadael âʼr lleoliad;

(h)awdurdod lleol y plentyn;

(i)y ddarpariaeth statudol y mae neu yr oedd gofal maeth yn cael ei ddarparu iʼr plentyn odani.

2.  Cofnod oʼr holl bersonau syʼn gweithio iʼr darparwr gwasanaeth, a hwnnwʼn gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn mewn cysylltiad â pherson syʼn dod o fewn rheoliad 30(1)—

(a)enw llawn a chyfeiriad cartref;

(b)dyddiad geni;

(c)rhyw;

(d)cymwysterau syʼn berthnasol i, a phrofiad o wneud, gwaith syʼn ymwneud â phlant;

(e)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) mewn cysylltiad â’r person;

(f)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad âʼr person;

(g)pa un a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu heblaw o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr gwasanaeth;

(h)pa un a ywʼr person yn gweithioʼn llawnamser neuʼn rhan-amser, ac, os ywʼn rhan-amser, nifer yr oriau syʼn cael eu gweithio ar gyfartaledd bob wythnos;

(i)y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;

(j)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth;

(k)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person; ac

(l)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

3.  Cofnod o bob damwain ddifrifol ac anaf difrifol syʼn digwydd i blant tra bônt wedi eu lleoli gyda rhieni maeth.

4.  Cofnod o’r holl gwynion a wneir o dan y polisi cwyno y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei roi yn ei le, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gwynion o’r fath.

5.  Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw atgyfeiriadau diogelu, aʼr canlyniad.

6.  Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli neu atal a ddefnyddir gan rieni maeth ar blentyn.