Rheoliad 67(1)

ATODLEN 4Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

1.  Penodi rheolwr (gweler rheoliad 50(1)).

2.  Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

3.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl iʼr absenoldeb ddechrau.

4.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth iʼr 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrauʼr absenoldeb ddod i ben.

5.  Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.

6.  Trefniadau interim pan foʼr rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.

7.  Bod rhywun ac eithrioʼr rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoliʼr gwasanaeth.

8.  Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neuʼn bwriadu peidio, â rheoliʼr gwasanaeth.