ATODLEN 1

Rheoliad 30(2) a (3)

RHAN 1Gwybodaeth a dogfennaeth sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau syʼn gweithio mewn gwasanaethau maethu

I11

Prawf o bwy ywʼr person gan gynnwys ffotograff diweddar.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I22

Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 199721, copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A oʼr Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan foʼn gymwys, âʼr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200622 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I33

Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I44

Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I55

Pan fo person wedi gweithioʼn flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, iʼr graddau y boʼn rhesymol ymarferol, oʼr rheswm pam y daeth y gyflogaeth neuʼr swydd i ben.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I66

Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I77

Pan foʼn berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â GCC.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I88

Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I99

Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff oʼr fath.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Dehongli Rhan 1

I1010

At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—

a

os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

i

os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 30(3) neu (6), a

ii

os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;

b

os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 2Y cofnodion sydd iʼw cadw gan ddarparwyr gwasanaethau

Rheoliadau 2 a 39

I111

Cofnod syʼn dangos mewn cysylltiad â phob plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth—

a

dyddiad lleoliʼr plentyn;

b

cynllun gofal a chymorth y plentyn;

c

y cytundeb gofal maeth mewn cysylltiad âʼr plentyn;

d

enw a chyfeiriad y rhieni maeth;

e

y dyddiad y daeth lleoliad y plentyn yno i ben;

f

cyfeiriad y plentyn cyn y lleoliad;

g

cyfeiriad y plentyn wrth iddo ymadael âʼr lleoliad;

h

awdurdod lleol y plentyn;

i

y ddarpariaeth statudol y mae neu yr oedd gofal maeth yn cael ei ddarparu iʼr plentyn odani.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I122

Cofnod oʼr holl bersonau syʼn gweithio iʼr darparwr gwasanaeth, a hwnnwʼn gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn mewn cysylltiad â pherson syʼn dod o fewn rheoliad 30(1)—

a

enw llawn a chyfeiriad cartref;

b

dyddiad geni;

c

rhyw;

d

cymwysterau syʼn berthnasol i, a phrofiad o wneud, gwaith syʼn ymwneud â phlant;

e

copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) mewn cysylltiad â’r person;

f

copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad âʼr person;

g

pa un a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu heblaw o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr gwasanaeth;

h

pa un a ywʼr person yn gweithioʼn llawnamser neuʼn rhan-amser, ac, os ywʼn rhan-amser, nifer yr oriau syʼn cael eu gweithio ar gyfartaledd bob wythnos;

i

y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;

j

y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth;

k

cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person; ac

l

cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I133

Cofnod o bob damwain ddifrifol ac anaf difrifol syʼn digwydd i blant tra bônt wedi eu lleoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I144

Cofnod o’r holl gwynion a wneir o dan y polisi cwyno y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei roi yn ei le, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gwynion o’r fath.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I155

Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw atgyfeiriadau diogelu, aʼr canlyniad.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I166

Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli neu atal a ddefnyddir gan rieni maeth ar blentyn.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

SCHEDULE 3Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

Rheoliad 40

RHAN 1Hysbysiadau i Weinidogion Cymru

I171

Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I182

Bod y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I193

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I204

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I215

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr derbynnydd, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I226

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.

Annotations:
Commencement Information
I22

Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I237

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.

Annotations:
Commencement Information
I23

Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I248

Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

Annotations:
Commencement Information
I24

Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I259

Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

Annotations:
Commencement Information
I25

Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I2610

Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

Annotations:
Commencement Information
I26

Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I2711

Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol.

Annotations:
Commencement Information
I27

Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I2812

Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth.

Annotations:
Commencement Information
I28

Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I2913

Unrhyw gam-drin neu honiad o gam-drin mewn perthynas â phlentyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth, aelod o staff, gwirfoddolwr a/neu riant maeth.

Annotations:
Commencement Information
I29

Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I3014

Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.

Annotations:
Commencement Information
I30

Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I3115

Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.

Annotations:
Commencement Information
I31

Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I3216

Damwain ddifrifol neu anaf difrifol plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I32

Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I3317

Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I33

Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I3418

Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I34

Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I3519

Unrhyw atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

Annotations:
Commencement Information
I35

Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I3620

Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I36

Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I3721

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.

Annotations:
Commencement Information
I37

Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I3822

Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.

Annotations:
Commencement Information
I38

Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Hysbysiadau iʼr awdurdod lleoli

I3923

Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I39

Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I4024

Unrhyw atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

Annotations:
Commencement Information
I40

Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I4125

Damwain ddifrifol neu anaf difrifol plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I41

Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I4226

Unrhyw glefyd heintus yn torri allan yng nghartref rhieni maeth, a hwnnw’n glefyd sydd, ym marn ymarferydd cyffredinol syʼn ymweld âʼr cartref, yn ddigon difrifol i hysbysu amdano felly.

Annotations:
Commencement Information
I42

Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I4327

Honiad bod plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

Annotations:
Commencement Information
I43

Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I4428

Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I44

Atod. 3 para. 28 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I4529

Unrhyw achos o blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth yn absennol heb ganiatâd.

Annotations:
Commencement Information
I45

Atod. 3 para. 29 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I4630

Unrhyw gŵyn ddifrifol neu honiad difrifol ynghylch unrhyw rieni maeth a gymeradwywyd gan y darparwr gwasanaeth.

Annotations:
Commencement Information
I46

Atod. 3 para. 30 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I4731

Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I47

Atod. 3 para. 31 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I4832

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.

Annotations:
Commencement Information
I48

Atod. 3 para. 32 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3Hysbysiadau iʼr awdurdod ardal y maeʼr cartref maeth yn ei ardal

I4933

Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I49

Atod. 3 para. 33 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I5034

Unrhyw glefyd heintus yn torri allan yng nghartref rhieni maeth, a hwnnw’n glefyd sydd, ym marn ymarferydd cyffredinol syʼn ymweld âʼr cartref, yn ddigon difrifol i hysbysu amdano felly.

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 3 para. 34 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I5135

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.

Annotations:
Commencement Information
I51

Atod. 3 para. 35 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I5236

Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I52

Atod. 3 para. 36 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I5337

Unrhyw ddigwyddiad syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

Annotations:
Commencement Information
I53

Atod. 3 para. 37 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4Hysbysiadau iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr plentyn wedi ei leoli yn ei ardal

I5438

Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

Annotations:
Commencement Information
I54

Atod. 3 para. 38 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I5539

Unrhyw glefyd heintus yn torri allan yng nghartref rhieni maeth, a hwnnw’n glefyd sydd, ym marn ymarferydd cyffredinol syʼn ymweld âʼr cartref, yn ddigon difrifol i hysbysu amdano felly.

Annotations:
Commencement Information
I55

Atod. 3 para. 39 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5Hysbysiadau iʼr heddlu

I5640

Honiad bod plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

Annotations:
Commencement Information
I56

Atod. 3 para. 40 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I5741

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.

Annotations:
Commencement Information
I57

Atod. 3 para. 41 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 4Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

Rheoliad 67(1)

I581

Penodi rheolwr (gweler rheoliad 50(1)).

Annotations:
Commencement Information
I58

Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I592

Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

Annotations:
Commencement Information
I59

Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I603

Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl iʼr absenoldeb ddechrau.

Annotations:
Commencement Information
I60

Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I614

Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth iʼr 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrauʼr absenoldeb ddod i ben.

Annotations:
Commencement Information
I61

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I625

Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.

Annotations:
Commencement Information
I62

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I636

Trefniadau interim pan foʼr rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.

Annotations:
Commencement Information
I63

Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I647

Bod rhywun ac eithrioʼr rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoliʼr gwasanaeth.

Annotations:
Commencement Information
I64

Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

I658

Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neuʼn bwriadu peidio, â rheoliʼr gwasanaeth.