xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
5 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Chwefror 2019
Yn dod i rym
1 Ebrill 2019
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol sy’n daladwy o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(3);
mae i “cyfnod asesu” yr ystyr a roddir i “assessment period” gan reoliad 21 o Reoliadau 2013;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
mae i “hunangyflogaeth elwaidd” yr ystyr a roddir i “gainful self-employment” gan reoliad 64 o Reoliadau 2013; ac
ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau Credyd Cynhwysol 2013(4).
2.—(1) Yr amgylchiadau a ragnodir(5) at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(ai) o Ddeddf 1996 yw—
(a)bod rhiant C, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, yn cael credyd cynhwysol, a
(b)bod gan riant C, yn y cyfnod asesu perthnasol, incwm a enillir nad yw’n fwy na’r swm cymwysadwy.
(2) Yr amgylchiadau a ragnodir at ddibenion adran 512ZB(4)(b)(ai) o Ddeddf 1996 yw—
(a)bod C, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, yn cael credyd cynhwysol, a
(b)bod gan C, yn y cyfnod asesu perthnasol, incwm a enillir nad yw’n fwy na’r swm cymwysadwy.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2)—
(a)mae’r diffiniad o “earned income” (“incwm a enillir”) o dan reoliad 52 o Reoliadau 2013(6) yn gymwys yn ddarostyngedig i is-baragraff (b);
(b)pan fo hawlydd, mewn unrhyw gyfnod asesu, mewn hunangyflogaeth elwaidd, nid yw rheoliad 62(7) o Reoliadau 2013 yn gymwys at ddibenion cyfrifo incwm a enillir person o dan reoliad 52(b) o’r Rheoliadau hynny;
(c)y cyfnod asesu perthnasol a’r swm cymwysadwy yw’r rhai y cyfeirir atynt yn y paragraffau a ganlyn fel y rhai sy’n gymwysadwy—
(i)ac eithrio pan fo paragraffau (ii) neu (iii) yn gymwys, pan fo gan y rhiant incwm a enillir nad oedd yn fwy na £616.67 yn y cyfnod asesu credyd cynhwysol yn union cyn dyddiad y cais am bryd ysgol am ddim (cyfnod 1)—
(aa)y cyfnod asesu perthnasol yw cyfnod 1; a
(bb)y swm cymwysadwy yw £616.67;
(ii)mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo paragraff (i) yn gymwys oherwydd yr eir yn fwy na’r swm cymwysadwy y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw a bod cyfnod asesu credyd cynhwysol (cyfnod 2) yn union cyn cyfnod 1 y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—
(aa)y cyfnod asesu perthnasol yw swm cyfnod 1 a chyfnod 2; a
(bb)y swm cymwysadwy yw £1,233.34;
(iii)mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo paragraff (ii) yn gymwys oherwydd yr eir yn fwy na’r swm cymwysadwy y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw a bod cyfnod asesu credyd cynhwysol (cyfnod 3) yn union cyn cyfnod 2 y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—
(aa)y cyfnod asesu perthnasol yw swm cyfnod 1, cyfnod 2 a chyfnod 3; a
(bb)y swm cymwysadwy yw £1,850;
(d)pan fo C neu, yn ôl y digwydd, riant C—
(i)yn aelod o gwpl sydd wedi gwneud hawliad ar y cyd am gredyd cynhwysol ac sydd â hawlogaeth i gredyd cynhwysol; neu
(ii)yn aelod o gwpl ond sydd wedi hawlio credyd cynhwysol, a sydd â hawlogaeth iddo, fel person sengl,
mae cyfeiriadau at symiau cymwysadwy ym mharagraffau (i) i (iii) o is-baragraff (c) i’w darllen fel cyfeiriadau at incwm cyfunol y cwpl.
3.—(1) O dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) i (4), mae cymhwystra C i gael cinio ysgol am ddim yn peidio ar y diwrnod peidio.
(2) O ran C—
(a)pan na fo’n dod yn gymwys, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, i gael cinio ysgol am ddim yn unol â pharagraff (a)(ai) neu (b)(ai) o is-adran (4) o adran 512ZB o Ddeddf 1996, ond
(b)ei fod yn gymwys ar 31 Mawrth 2019, neu yn dod yn gymwys ar ôl y dyddiad hwnnw, i gael cinio o’r fath yn unol â pharagraffau (a)(i) i (iia), (aa), (b)(i) i (iia) neu (c)(ii) o’r is-adran honno.
(3) Pan oedd C yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim yn unol yn unol â pharagraff (a)(ai) neu (b)(ai) o is-adran (4) o adran 512ZB o Ddeddf 1996 ar 31 Mawrth 2019 pa un a yw’r darpariaethau hynny wedi hynny yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas ag C ai peidio.
(4) Pan fo C yn dod yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim yn unol â pharagraff (a)(ai) neu (b)(ai) o is-adran (4) o adran 512ZB o Ddeddf 1996 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 pa un a yw’r darpariaethau hynny wedi hynny yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas ag C ai peidio ac ni waeth pa un a oedd C yn gymwys felly cyn hynny yn unol â pharagraffau (a)(i) i (iia), (aa), (b)(i) i (iia) neu (c)(ii) o’r is-adran honno.
(5) Y diwrnod peidio yw’r diweddaraf o—
(a)31 Rhagfyr 2023; a
(b)y diwrnod y mae—
(i)C yn cwblhau addysg gynradd fel y diffinnir “primary education” yn adran 2 o Ddeddf 1996 (os oedd C ar y cam addysg hwnnw ar 31 Rhagfyr 2023);
(ii)C yn cwblhau addysg uwchradd fel y diffinnir “secondary education” yn yr adran honno (os oedd C ar y cam addysg hwnnw ar 31 Rhagfyr 2023).
4. Mae Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013(8) wedi ei ddirymu.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
5 Chwefror 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi amodau at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).
Mae erthygl 2 yn ymdrin â’r cyswllt rhwng cael y budd-dal nawdd cymdeithasol o’r enw “credyd cynhwysol” a chymhwystra i gael cinio ysgol a llaeth am ddim. Mae’n darparu, pan fo person (“C”) neu riant C yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 ac na fo ganddo incwm sy’n fwy na swm cymwysadwy penodedig yn y cyfnod perthnasol yn union cyn dyddiad y cais am ginio ysgol am ddim, y daw o fewn adran 512ZB(4) (paragraffau (1) a (2)). Mae paragraffau (3)(a) a (b) yn diffinio “incwm a enillir” at ddibenion paragraffau (1) a (2). Mae paragraff (3)(c) yn darparu y gall y cyfnod perthnasol, mewn unrhyw achos penodol, fod yn un cyfnod asesu credyd cynhwysol, 2 gyfnod o’r fath neu 3 chyfnod o’r fath – ac y bydd pob un yn denu, fel trothwy, swm cymwysadwy gwahanol o incwm, (yn seiliedig ar ddeuddegfedau o incwm blynyddol cyfatebol o £7,400). Mae personau o fewn adran 512ZB(4) yn gymwys i gael ciniawau ysgol a llaeth am ddim pan wnaed cais ganddynt (neu ar eu rhan).
Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau darfodol mewn perthynas â pherson (C) sy’n gymwys i gael cinio ysgol a llaeth am ddim yn rhinwedd bodloni amodau penodol o dan adran 512ZB(4) o Ddeddf Addysg 1996. Mae erthygl 3 yn darparu, pan fo hawlogaeth gan C i gael cinio ysgol am ddim mewn achosion penodedig yn rhinwedd bod yn gymwys i gael budd-daliadau nawdd cymdeithasol penodol, fod yr hawlogaeth honno yn peidio ar y diwrnod peidio, sef pa un bynnag yw’r diweddaraf o (a) 31 Rhagfyr 2023, a (b) cwblhau’r cam addysg yr oedd C ynddo ar 31 Rhagfyr 2023.
Mae erthygl 4 yn dirymu Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru argynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Lles Disgyblion, yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 512ZB gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002. Mewnosodwyd is-adran (4)(a)(ai) gan adran 31 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 37 a 39(a) o Atodlen 2 iddi. Mewnosodwyd is-adran (4)(b)(ai) gan adran 31 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 37 a 39(b) o Atodlen 2 iddi.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Yn rhinwedd adran 512 o Ddeddf Addysg 1996, ystyr “prescribed” (“a ragnodir”) yn adran 512ZB yw wedi ei ragnodi gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
Mae Pennod 2 o Ran 6 o Reoliadau 2013 yn ymwneud ag incwm a enillir at ddiben cyfrifo dyfarndal o gredyd cynhwysol.
Mae’r rheoliad hwn yn darparu, pan fo hawlydd, mewn unrhyw gyfnod asesu, mewn hunangyflogaeth elwaidd a phan fo incwm a enillir yr hawlydd mewn cysylltiad â’r cyfnod asesu hwnnw yn llai na’r isafswm terfyn incwm, fod yr hawlydd i’w drin fel pe bai bod ganddo incwm a enillir sy’n hafal i’r isafswm terfyn incwm.