Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2019

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 187 (Cy. 47)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2019

Gwnaed

5 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512ZB(4)(a)(ai), 512ZB(4)(b)(ai) a 568 o Ddeddf Addysg 1996(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol sy’n daladwy o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(3);

mae i “cyfnod asesu” yr ystyr a roddir i “assessment period” gan reoliad 21 o Reoliadau 2013;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

mae i “hunangyflogaeth elwaidd” yr ystyr a roddir i “gainful self-employment” gan reoliad 64 o Reoliadau 2013; ac

ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau Credyd Cynhwysol 2013(4).

Amgylchiadau rhagnodedig: cael credyd cynhwysol

2.—(1Yr amgylchiadau a ragnodir(5) at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(ai) o Ddeddf 1996 yw—

(a)bod rhiant C, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, yn cael credyd cynhwysol, a

(b)bod gan riant C, yn y cyfnod asesu perthnasol, incwm a enillir nad yw’n fwy na’r swm cymwysadwy.

(2Yr amgylchiadau a ragnodir at ddibenion adran 512ZB(4)(b)(ai) o Ddeddf 1996 yw—

(a)bod C, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, yn cael credyd cynhwysol, a

(b)bod gan C, yn y cyfnod asesu perthnasol, incwm a enillir nad yw’n fwy na’r swm cymwysadwy.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2)—

(a)mae’r diffiniad o “earned income” (“incwm a enillir”) o dan reoliad 52 o Reoliadau 2013(6) yn gymwys yn ddarostyngedig i is-baragraff (b);

(b)pan fo hawlydd, mewn unrhyw gyfnod asesu, mewn hunangyflogaeth elwaidd, nid yw rheoliad 62(7) o Reoliadau 2013 yn gymwys at ddibenion cyfrifo incwm a enillir person o dan reoliad 52(b) o’r Rheoliadau hynny;

(c)y cyfnod asesu perthnasol a’r swm cymwysadwy yw’r rhai y cyfeirir atynt yn y paragraffau a ganlyn fel y rhai sy’n gymwysadwy—

(i)ac eithrio pan fo paragraffau (ii) neu (iii) yn gymwys, pan fo gan y rhiant incwm a enillir nad oedd yn fwy na £616.67 yn y cyfnod asesu credyd cynhwysol yn union cyn dyddiad y cais am bryd ysgol am ddim (cyfnod 1)—

(aa)y cyfnod asesu perthnasol yw cyfnod 1; a

(bb)y swm cymwysadwy yw £616.67;

(ii)mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo paragraff (i) yn gymwys oherwydd yr eir yn fwy na’r swm cymwysadwy y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw a bod cyfnod asesu credyd cynhwysol (cyfnod 2) yn union cyn cyfnod 1 y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—

(aa)y cyfnod asesu perthnasol yw swm cyfnod 1 a chyfnod 2; a

(bb)y swm cymwysadwy yw £1,233.34;

(iii)mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo paragraff (ii) yn gymwys oherwydd yr eir yn fwy na’r swm cymwysadwy y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw a bod cyfnod asesu credyd cynhwysol (cyfnod 3) yn union cyn cyfnod 2 y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—

(aa)y cyfnod asesu perthnasol yw swm cyfnod 1, cyfnod 2 a chyfnod 3; a

(bb)y swm cymwysadwy yw £1,850;

(d)pan fo C neu, yn ôl y digwydd, riant C—

(i)yn aelod o gwpl sydd wedi gwneud hawliad ar y cyd am gredyd cynhwysol ac sydd â hawlogaeth i gredyd cynhwysol; neu

(ii)yn aelod o gwpl ond sydd wedi hawlio credyd cynhwysol, a sydd â hawlogaeth iddo, fel person sengl,

mae cyfeiriadau at symiau cymwysadwy ym mharagraffau (i) i (iii) o is-baragraff (c) i’w darllen fel cyfeiriadau at incwm cyfunol y cwpl.

Darpariaethau darfodol

3.—(1O dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) i (4), mae cymhwystra C i gael cinio ysgol am ddim yn peidio ar y diwrnod peidio.

(2O ran C—

(a)pan na fo’n dod yn gymwys, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, i gael cinio ysgol am ddim yn unol â pharagraff (a)(ai) neu (b)(ai) o is-adran (4) o adran 512ZB o Ddeddf 1996, ond

(b)ei fod yn gymwys ar 31 Mawrth 2019, neu yn dod yn gymwys ar ôl y dyddiad hwnnw, i gael cinio o’r fath yn unol â pharagraffau (a)(i) i (iia), (aa), (b)(i) i (iia) neu (c)(ii) o’r is-adran honno.

(3Pan oedd C yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim yn unol yn unol â pharagraff (a)(ai) neu (b)(ai) o is-adran (4) o adran 512ZB o Ddeddf 1996 ar 31 Mawrth 2019 pa un a yw’r darpariaethau hynny wedi hynny yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas ag C ai peidio.

(4Pan fo C yn dod yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim yn unol â pharagraff (a)(ai) neu (b)(ai) o is-adran (4) o adran 512ZB o Ddeddf 1996 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 pa un a yw’r darpariaethau hynny wedi hynny yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas ag C ai peidio ac ni waeth pa un a oedd C yn gymwys felly cyn hynny yn unol â pharagraffau (a)(i) i (iia), (aa), (b)(i) i (iia) neu (c)(ii) o’r is-adran honno.

(5Y diwrnod peidio yw’r diweddaraf o—

(a)31 Rhagfyr 2023; a

(b)y diwrnod y mae—

(i)C yn cwblhau addysg gynradd fel y diffinnir “primary education” yn adran 2 o Ddeddf 1996 (os oedd C ar y cam addysg hwnnw ar 31 Rhagfyr 2023);

(ii)C yn cwblhau addysg uwchradd fel y diffinnir “secondary education” yn yr adran honno (os oedd C ar y cam addysg hwnnw ar 31 Rhagfyr 2023).

Dirymu

4.  Mae Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013(8) wedi ei ddirymu.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

5 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi amodau at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

Mae erthygl 2 yn ymdrin â’r cyswllt rhwng cael y budd-dal nawdd cymdeithasol o’r enw “credyd cynhwysol” a chymhwystra i gael cinio ysgol a llaeth am ddim. Mae’n darparu, pan fo person (“C”) neu riant C yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 ac na fo ganddo incwm sy’n fwy na swm cymwysadwy penodedig yn y cyfnod perthnasol yn union cyn dyddiad y cais am ginio ysgol am ddim, y daw o fewn adran 512ZB(4) (paragraffau (1) a (2)). Mae paragraffau (3)(a) a (b) yn diffinio “incwm a enillir” at ddibenion paragraffau (1) a (2). Mae paragraff (3)(c) yn darparu y gall y cyfnod perthnasol, mewn unrhyw achos penodol, fod yn un cyfnod asesu credyd cynhwysol, 2 gyfnod o’r fath neu 3 chyfnod o’r fath – ac y bydd pob un yn denu, fel trothwy, swm cymwysadwy gwahanol o incwm, (yn seiliedig ar ddeuddegfedau o incwm blynyddol cyfatebol o £7,400). Mae personau o fewn adran 512ZB(4) yn gymwys i gael ciniawau ysgol a llaeth am ddim pan wnaed cais ganddynt (neu ar eu rhan).

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau darfodol mewn perthynas â pherson (C) sy’n gymwys i gael cinio ysgol a llaeth am ddim yn rhinwedd bodloni amodau penodol o dan adran 512ZB(4) o Ddeddf Addysg 1996. Mae erthygl 3 yn darparu, pan fo hawlogaeth gan C i gael cinio ysgol am ddim mewn achosion penodedig yn rhinwedd bod yn gymwys i gael budd-daliadau nawdd cymdeithasol penodol, fod yr hawlogaeth honno yn peidio ar y diwrnod peidio, sef pa un bynnag yw’r diweddaraf o (a) 31 Rhagfyr 2023, a (b) cwblhau’r cam addysg yr oedd C ynddo ar 31 Rhagfyr 2023.

Mae erthygl 4 yn dirymu Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru argynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Lles Disgyblion, yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 512ZB gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002. Mewnosodwyd is-adran (4)(a)(ai) gan adran 31 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 37 a 39(a) o Atodlen 2 iddi. Mewnosodwyd is-adran (4)(b)(ai) gan adran 31 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 37 a 39(b) o Atodlen 2 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(5)

Yn rhinwedd adran 512 o Ddeddf Addysg 1996, ystyr “prescribed” (“a ragnodir”) yn adran 512ZB yw wedi ei ragnodi gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(6)

Mae Pennod 2 o Ran 6 o Reoliadau 2013 yn ymwneud ag incwm a enillir at ddiben cyfrifo dyfarndal o gredyd cynhwysol.

(7)

Mae’r rheoliad hwn yn darparu, pan fo hawlydd, mewn unrhyw gyfnod asesu, mewn hunangyflogaeth elwaidd a phan fo incwm a enillir yr hawlydd mewn cysylltiad â’r cyfnod asesu hwnnw yn llai na’r isafswm terfyn incwm, fod yr hawlydd i’w drin fel pe bai bod ganddo incwm a enillir sy’n hafal i’r isafswm terfyn incwm.