NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (O.S. 1992/613) (“Rheoliadau 1992”).

Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 1992 i ddileu pŵer awdurdodau bilio yng Nghymru i wneud cais i lys ynadon am ddyroddi gwarant i draddodi dyledwr treth gyngor i garchar.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol. Mae unrhyw achosion pan fo awdurdod bilio yng Nghymru wedi gwneud cais am warant i draddodi cyn 1 Ebrill 2019 yn parhau i gael eu trin o dan y cynllun a oedd yn gymwys cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym. Fodd bynnag, ni chaiff awdurdodau bilio yng Nghymru ddefnyddio’r pŵer yn rheoliad 48(3) o Reoliadau 1992 i adnewyddu cais ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.