Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
12 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Chwefror 2019
Yn dod i rym
29 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(1)(d), 10(4), 11(3)(a)(iii) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol a Chofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Rheoliadau Cofrestru” (“the Registration Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017(2);
ystyr “y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol” (“the Annual Returns Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017(3).
2. Maeʼr Rheoliadau Datganiadau Blynyddol wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3. Yn rheoliad 6, ar ôl “gwasanaeth cymorth cartref” mewnosoder “, gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli”.
4. Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—
9A.—(1) Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth cymorth cartref gyflwyno’r set gyntaf o ddatganiadau blynyddol yn 2020.
(2) Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli gyflwyno’r set gyntaf o ddatganiadau blynyddol yn 2021.
(3) Os yw darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaethau a restrir ym mharagraffau (1) a (2), nid oes angen i ddatganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth mewn perthynas â’r gwasanaethau hynny sydd wedi eu rhestru ym mharagraff (2) tan 2021.”
5. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 5—
(a)yn is-baragraff (j), yn lle “.” rhodder “;”;
(b)ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder y canlynol—
“ond nid yw is-baragraffau (d), (e), (h) ac (i) yn gymwys os nad yw darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru ond i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli.”
6. Maeʼr Rheoliadau Cofrestru wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 7 i 11.
7. Yn rheoliad 3(c), yn lle “ohono” rhodder “mewn perthynas ag ef”.
8. Yn rheoliad 6(c), yn lle “ohono” rhodder “mewn perthynas ag ef”.
9. Yn rheoliad 7(c), yn lle “o fan” rhodder “mewn perthynas â man”.
10. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 31 mewnosoder—
“31A. Yn achos gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli, y dyddiad y bwriedir dechrau darparu’r gwasanaeth mewn perthynas â phob man a bennir yn y cais.”
11. Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff (e) mewnosoder—
“(ea)yn achos gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli—
(i)enw’r gwasanaeth;
(ii)yr ardal y darperir y gwasanaeth mewn perthynas â hi;
(iii)cyfeiriadau’r swyddfa neu’r swyddfeydd y darperir y gwasanaeth ohoni neu ohonynt;
(iv)cyfeiriadau unrhyw swyddfa arall neu unrhyw swyddfeydd eraill a ddefnyddir mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth;”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Chwefror 2019
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 (“y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol”) a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 (“y Rheoliadau Cofrestru”).
Mae rheoliad 6 (gwybodaeth arall) o’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol wedi ei ddiwygio i gynnwys y darparwyr gwasanaethau hynny sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli, i gyflwyno gwybodaeth ychwanegol, fel y’i pennir yn yr Atodlen, fel rhan o’u datganiad blynyddol.
Mae rheoliad 9A (amser ar gyfer cyflwyno’r datganiadau blynyddol cyntaf) wedi ei fewnosod i bennu’r flwyddyn y mae’r set gyntaf o ddatganiadau blynyddol i’w chyflwyno gan briod ddarparwyr gwasanaethau.
Mae paragraff 5 o’r Atodlen (gwybodaeth am staffio) wedi ei ddiwygio i wahaniaethu rhwng categorïau’r swyddi sydd wedi eu llenwi a’r swyddi gwag y mae’n ofynnol i briod ddarparwyr gwasanaethau eu cynnwys yn y datganiad blynyddol.
Mae Atodlen 1 (yr wybodaeth sy’n ofynnol am y gwasanaeth sydd i’w ddarparu) o’r Rheoliadau Cofrestru wedi ei diwygio i gynnwys y darparwyr gwasanaethau hynny sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli.
Mae Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad o ddiben) wedi ei diwygio i gynnwys y darparwyr gwasanaethau hynny sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.