xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
61. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 62 i 66.
62. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1) yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “darparwr cynllun Seisnig” (“English plan provider”) yw sefydliad Seisnig cofrestredig sydd â chynllun mynediad a chyfranogiad a gymeradwywyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 ac sy’n parhau mewn grym;”;
“ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—
y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”;
“ystyr “sefydliad a gyllidir gan yr Alban” (“Scottish funded institution”) yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion yr Alban;”;
“ystyr “sefydliad a gyllidir gan Gymru” (“Welsh funded institution”) yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;”;
“ystyr “sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon” (“Northern Irish funded institution”) yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon;”;
“ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” (“English regulated institution”) yw sefydliad Seisnig cofrestredig sy’n ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd o dan adran 10 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017;”; ac
“ystyr “sefydliad Seisnig cofrestredig” (“registered English institution”) yw sefydliad sydd wedi ei gofrestru gan y Swyddfa Fyfyrwyr yn y gofrestr;”.
63. Yn rheoliad 4 (cyrsiau dynodedig)—
(a)yn lle paragraff (1)(b) rhodder—
“(b)os yw’n un o’r canlynol—
(i)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad arall o’r fath a gyllidir yn gyhoeddus neu â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig);
(ii)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—
(aa)sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd o fewn neu y tu allan i’r Deyrnas Unedig); neu
(ab)sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig;”.
(b)yn lle paragraff (2)(d) rhodder—
“(d)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus neu’n sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond oherwydd—
(i)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw; neu
(ii)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol;”
(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) At ddiben paragraff (2)—
(a)ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; a
(b)ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.”
64. Yn rheoliad 8 (digwyddiadau), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”.
65. Yn rheoliad 13 (swm benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “£25,000” rhodder “£25,700”;
(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “£25,000” rhodder “25,700”.
66. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 6 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—
6A.—(1) Person—
(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Yn y paragraff hwn—
ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.”
O.S. 2018/656 (Cy. 124), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/814 (Cy. 165).