NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”).

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn disodli’r system gofrestru ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol, a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Ddeddf 2000, sy’n ei gwneud yn ofynnol cofrestru sefydliadau ac asiantaethau ac yn golygu bod cofrestriad ar wahân yn angenrheidiol ar gyfer pob lleoliad lle yr oedd gwasanaeth yn cael ei ddarparu.

Mae’r Ddeddf yn gweithredu dull gwahanol sy’n seiliedig ar y gwasanaeth. Rhaid i ddarparwr gofrestru â Gweinidogion Cymru er mwyn darparu unrhyw wasanaeth gofal a chymorth sy’n cael ei reoleiddio o dan y Ddeddf a bydd y cofrestriad hwnnw yn cynnwys manylion pob un o’r lleoliadau y mae’r darparwr yn darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig ynddynt.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr sy’n cyfeirio, at ddibenion amrywiol, at un o’r categorïau o sefydliad neu asiantaeth a reoleiddid o dan Ddeddf 2000 er mwyn rhoi gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf yn lle cyfeiriadau o’r fath.

Cychwynnwyd Rhan 1 o’r Ddeddf ar 2 Ebrill 2018 mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig a ganlyn—

(a)gwasanaethau cartrefi gofal;

(b)gwasanaethau llety diogel;

(c)gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd;

(d)gwasanaethau cymorth cartref.

Ar 29 Ebrill 2019, mae Rhan 1 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig sy’n weddill—

(a)gwasanaethau mabwysiadu;

(b)gwasanaethau maethu;

(c)gwasanaethau lleoli oedolion;

(d)gwasanaethau eirioli.

Nid yw gwasanaethau eirioli yn cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2000 ar hyn o bryd.

Mae rheoliad 2 ac Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 2 yn pennu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei dirymu gan y Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.