Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016
4.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4(4), yn lle “yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb (ond heb iddo leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb)” rhodder “o dan amgylchiadau eithriadol, heb leihau effaith rheoliadau 56 a 57”.
(3) Yn rheoliad 51(a), hepgorer “arall”.
(4) Yn rheoliad 53—
(a)yn y pennawd ac ym mharagraff (1)(a) a (b), hepgorer “arall”;
(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o’r Gyfarwyddeb” rhodder “awdurdodau yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi eu dynodi yn awdurdodau sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”; ac
(c)ym mharagraff (5), hepgorer “yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb”.
(5) Yn rheoliad 54—
(a)yn y pennawd, hepgorer “arall”;
(b)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer “arall”, yn y ddau le y mae’n digwydd;
(ii)hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(1) neu 7(2) o’r Gyfarwyddeb,”;
(iii)hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb,”; a
(iv)yn is-baragraff (b), yn lle “i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, yn unol ag Erthygl 7(3)(b) o’r Gyfarwyddeb” rhodder “i’r awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”; ac
(c)ym mharagraff (2)—
(i)yn is-baragraff (b), yn lle “awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE berthnasol” rhodder “awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”; a
(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “awdurdod cymwys y Wladwriaeth AEE berthnasol” rhodder “awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”.
(6) Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 21 a 22, yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “yn unol â Phennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Ynni 2008() ac unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”.
(7) Yn Atodlen 2, yn y tabl ym mharagraff 2 yn eitem 3(j), yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” rhodder “yn unol â Phennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Ynni 2008 ac unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”.
(8) Yn Atodlen 3, ym mharagraff 2(c)—
(a)ym mharagraff (v)—
(i)ar ôl “o dan ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaethau” mewnosoder “neu o dan ddeddfwriaeth unrhyw ran o’r DU,”;
(ii)hepgorer “gan Aelod-wladwriaethau”; a
(iii)yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” rhodder “o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE wnaeth drosi Cyfarwyddeb”; a
(b)ym mharagraff (vi), yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.
(9) Yn Atodlen 5, ym mharagraff 12(a), hepgorer “arall”.
(10) Yn Atodlen 6, ym mharagraff 15(b), hepgorer “arall”.