Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 250 (Cy. 62)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

4 Chwefror 2019

Gwnaed

11 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Chwefror 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2))

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud a gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019

2.—(1Diwygir Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019(2) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6(1), yn lle “a aned yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “a aned mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Deyrnas Unedig”.

(3Ym mhennawd rheoliad 7, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i’r Deyrnas Unedig o wlad heblaw Aelod-wladwriaeth”.

(4Yn rheoliad 13(3)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”.

(5Yn rheoliad 33, yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Caiff yr arolygydd fynd gydag unrhyw bersonau eraill a ystyrir gan yr arolygydd yn angenrheidiol..

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

11 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 sy’n cydategu Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/262 sy’n nodi rheolau yn unol â Chyfarwyddebau’r Cyngor 90/427/EEC a 2009/156/EC o ran dulliau adnabod equidae yng Nghymru ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gorfodi’r Rheoliad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.