2019 Rhif 286 (Cy. 66)
Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(6)(b) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20021.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr “person perthynol” (“related person”) yw—
- a
perthynas o fewn ystyr “relative” yn adran 144(1) o Ddeddf 2002, neu
- b
unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef yr ymddengys i’r awdurdod lleol ei bod yn fuddiol i les y plentyn gan roi sylw i’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;
ystyr “plentyn mabwysiadol” (“adoptive child”) yw plentyn sy’n blentyn mabwysiadol drwy asiantaeth neu’n blentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth;
ystyr “plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth” (“agency adoptive child”) yw plentyn—
- a
mewn cysylltiad ag ef y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20052 y dylid ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu,
- b
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu, neu
- c
sydd wedi cael ei fabwysiadu ar ôl cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;
ystyr “plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth” (“non-agency adoptive child”) yw plentyn—
- a
mewn cysylltiad ag ef y mae person—
- i
wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 o’i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu, a
- ii
nad yw’n rhiant geni nac yn llys-riant i’r plentyn, neu
- i
- b
sydd wedi cael ei fabwysiadu gan berson—
- i
nad yw’n rhiant geni i’r plentyn, a
- ii
nad oedd yn llys-riant i’r plentyn cyn iddo fabwysiadu’r plentyn,
- i
ond nid yw’n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
ystyr “rhiant mabwysiadol” (“adoptive parent”) yw person—
- a
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 ei fod yn rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol,
- b
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu,
- c
sydd wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 o’i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu ar gyfer plentyn,
- d
sydd wedi mabwysiadu plentyn, neu
- e
sydd wedi mabwysiadu plentyn sydd wedi cyrraedd 18 oed ar ôl hynny,
ond nid yw’n cynnwys person sy’n llys-riant i’r plentyn neu’n rhiant geni i’r plentyn neu a oedd yn llys-riant i’r plentyn cyn iddo fabwysiadu’r plentyn.
- a
Gwasanaethau cymorth mabwysiadu3
1
At ddibenion adran 2(6)(b) o Ddeddf 2002 mae’r gwasanaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi fel gwasanaethau cymorth mabwysiadu—
a
cynhorthwy i rieni mabwysiadol, plant mabwysiadol, a phersonau perthynol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer cyswllt rhwng plentyn mabwysiadol a rhiant geni neu berson perthynol i’r plentyn mabwysiadol;
b
gwasanaethau y gellir eu darparu mewn perthynas ag anghenion therapiwtig plentyn mewn perthynas â mabwysiadu’r plentyn;
c
cynhorthwy at ddiben sicrhau bod y berthynas rhwng plentyn a rhiant mabwysiadol y plentyn yn parhau, gan gynnwys—
i
hyfforddiant ar gyfer y rhiant mabwysiadol at ddiben diwallu unrhyw anghenion arbennig y plentyn sy’n codi o’r mabwysiad hwnnw, a
ii
yn ddarostyngedig i baragraff (3), gofal seibiant;
d
cynhorthwy pan amharwyd ar drefniant neu leoliad mabwysiadu neu pan fo perygl y bydd hynny yn digwydd, gan gynnwys—
i
cyfryngu, a
ii
trefnu a chynnal cyfarfodydd i drafod achosion o amharu ar fabwysiadau neu leoliadau;
e
cynhorthwy i bersonau mabwysiedig sydd wedi cyrraedd 18 oed i gael gwybodaeth mewn perthynas â’u mabwysiad neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a’u perthnasau;
f
cynhorthwy i berthnasau personau mabwysiedig sydd wedi cyrraedd 18 oed i gael gwybodaeth mewn perthynas â’r mabwysiad hwnnw neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a’r person mabwysiedig;
g
gwasanaethau i alluogi grwpiau o blant mabwysiadol, rhieni mabwysiadol a rhieni geni neu gyn-warcheidwaid plentyn mabwysiadol i drafod materion sy’n ymwneud â mabwysiadu.
2
At ddibenion paragraff (1)(e) ac (f), ystyr “perthynas” yw unrhyw berson a fyddai, oni bai am ei fabwysiad, yn perthyn i’r person mabwysiedig drwy waed, gan gynnwys hanner gwaed neu briodas.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)