NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“Deddf 2002”). Mae adran 2(6) o Ddeddf 2002 yn darparu bod cwnsela, cyngor a gwybodaeth, ac unrhyw wasanaethau eraill a ragnodir gan reoliadau, mewn perthynas â mabwysiadu, yn wasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 3(1) o’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gwasanaethau sy’n wasanaethau cymorth mabwysiadu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.