2019 RHif 291 (Cy. 69)
Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9(1) a (3), a 10 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20021.
RHAN 1Cyffredinol
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 20102;
ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—
- a
cyngor sir yn Lloegr,
- b
cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr nad oes cyngor sir ar ei chyfer,
- c
cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu
- d
Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;
mae i “cyflogai” yr un ystyr ag “employee” yn adran 230(1) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 19963;
- a
ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw berson a chanddo awdurdod cyfreithiol, neu sydd wedi cael cydsyniad yr unigolyn, i weithredu ar ran yr unigolyn;
ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw’r awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaeth mabwysiadu’r awdurdod lleol;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw’r ddogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu yn unol ag Atodlen 1 ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn perthynas ag ef;
ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20164;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
mae i “Gofal Cymdeithasol Cymru” (“Social Care Wales”) yr ystyr a roddir yn adran 67(3) o Ddeddf 2016;
ystyr “y gwasanaeth” (“the service”) yw gwasanaeth mabwysiadu’r awdurdod lleol;
ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 20125;
ystyr “gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol” (“local authority adoption service”) yw cyflawni’r swyddogaethau gan awdurdod lleol o dan y Ddeddf o wneud trefniadau neu gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer mabwysiadu plant neu ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu;
mae i “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption support services” yn adran 2(6) o’r Ddeddf a’r ystyr a roddir yn rheoliad 3 o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 20056;
mae i “gweithiwr” yr un ystyr â “worker” yn adran 230(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;
ystyr “y rheoleiddiwr gwasanaethau” (“the service regulator”) yw Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol fel y’u diffinir yn adran 3(1)(b) o Ddeddf 2016;
mae i “rheolwr gofal cymdeithasol” (“social care manager”) yr ystyr a roddir yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2016;
mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—
- a
personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a
- b
personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,
ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr;
- a
ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;
ystyr “unigolyn” (“individual”), oni bai bod y cyd-destun yn nodi fel arall, yw—
- a
plentyn a all gael ei fabwysiadu, ei riant neu ei warcheidwad,
- b
person sy’n dymuno mabwysiadu plentyn, neu
- c
person mabwysiedig, ei riant, ei riant geni neu ei gyn-warcheidwad,
sy’n cael cymorth o’r math y mae’n ofynnol i wasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol ei ddarparu yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20057 neu Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 20058, neu
- a
- a
unrhyw berson sy’n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
- a
2
Yn y Rheoliadau hyn, pan fo’n cael ei ddefnyddio mewn perthynas â’r cymorth a ddarperir i “unigolyn” fel y’i diffinnir yn y rheoliad hwn, mae “cymorth” yn cynnwys—
a
y cymorth y mae’n ofynnol i wasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol ei ddarparu i unigolion yng nghwrs trefnu mabwysiad neu ar ôl i fabwysiad gael ei drefnu yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 neu Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005, neu
b
y gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae awdurdod lleol yn eu darparu neu’n trefnu i’w darparu9.
RHAN 2Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau
Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.
Cynnwys y datganiad o ddiben4
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio datganiad o ddiben sy’n cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1.
Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben5
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a
b
pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.
3
Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.
4
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.
5
Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.
6
Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—
a
y rheoleiddiwr gwasanaethau;
b
unigolion;
c
unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.
7
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.
Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella6
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.
2
Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—
a
unigolion;
b
unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn;
c
unrhyw awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr sydd wedi trefnu bod gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn cael eu darparu gan y gwasanaeth;
d
staff,
ar ansawdd y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.
3
Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a
b
rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd y gwasanaeth a lunnir gan y rheolwr yn unol â rheoliad 39(4).
Gofyniad i benodi rheolwr7
1
Rhaid i bob darparwr gwasanaeth benodi un o’i swyddogion i fod yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i’r rheoleiddiwr gwasanaethau—
a
o enw’r person a benodir yn rheolwr, a
b
o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn ysgrifenedig os yw’r person a benodir o dan baragraff (1) yn peidio â rheoli’r gwasanaeth.
Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr8
1
Ni chaiff y darparwr gwasanaeth benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
2
At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 22(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
Gofynion eraill mewn perthynas â’r rheolwr9
1
Rhaid i ddarparwr gwasanaeth sicrhau bod y person sydd wedi ei benodi’n rheolwr—
a
yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a
b
yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y rheolwr yn cydymffurfio â gofynion Rhannau 9 i 12 (dyletswyddau i’w cyflawni gan y rheolwr).
3
Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r rheolwr wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 9 i 12, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad.
4
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr sydd wedi ei benodi neu pan yw’r rheolwr yn absennol o’r gwasanaeth.
Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau10
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—
a
diogelu (gweler rheoliad 19);
b
cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 23);
c
disgyblu staff (gweler rheoliad 25);
d
cwynion (gweler rheoliad 31);
e
chwythuʼr chwiban (gweler rheoliad 32).
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hefyd gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—
a
yn briodol i anghenion yr unigolion y darperir cymorth ar eu cyfer,
b
yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac
c
yn cael eu cadwʼn gyfredol.
4
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.
Dyletswydd gonestrwydd11
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—
a
unigolion;
b
unrhyw gynrychiolwyr i’r unigolion hynny.
RHAN 3Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu cymorth
Gwybodaeth am y gwasanaeth12
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.
2
Rhaid iʼr canllaw—
a
cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru fel y bo angen;
b
bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;
c
cael ei roi i unrhyw unigolyn sy’n cael cymorth;
d
cael ei roi ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unigolyn.
3
Rhaid iʼr canllaw gynnwys gwybodaeth am—
a
sut i godi pryder neu wneud cwyn;
b
argaeledd gwasanaethau eirioli;
c
rôl a manylion cyswllt Comisiynydd Plant Cymru.
4
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolyn yn cael unrhyw gynhorthwy sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.
Cytundeb gwasanaeth13
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y rhoddir i bob unigolyn sy’n cael cymorth gopi wedi ei lofnodi o unrhyw gytundeb sy’n ymwneud ag—
a
y cymorth a ddarperir i’r unigolyn;
b
unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir i’r unigolyn.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolion yn cael unrhyw gynhorthwy sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gytundeb o’r fath.
RHAN 4Gofyniad ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safonau’r cymorth sydd i’w ddarparu
Safonau’r cymorth – gofynion cyffredinol14
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir cymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir cymorth mewn ffordd—
a
sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff, a
b
sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.
Gwybodaeth15
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan unigolyn yr wybodaeth y mae ei hangen arno i wneud neu gymryd rhan mewn asesiadau, cynlluniau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir cymorth iddo.
2
Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir fod ar gael yn yr iaith, yr arddull, y cyflwyniad a’r fformat priodol, gan roi sylw i—
a
natur y gwasanaeth fel y’i disgrifir yn y datganiad o ddiben;
b
lefel dealltwriaeth yr unigolyn a’i allu i gyfathrebu;
c
yn achos plentyn, oedran y plentyn.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolyn yn cael unrhyw gynhorthwy sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.
Iaith a chyfathrebu16
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolyn.
Parch a sensitifrwydd17
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.
2
Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—
a
parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;
b
parchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd;
c
hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;
d
rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 201010) yr unigolyn.
RHAN 5Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau – diogelu
Diogelu - gofyniad cyffredinol18
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.
Polisïau a gweithdrefnau diogelu19
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—
a
ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a
b
ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.
2
Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau oʼr fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
4
Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
gweithredu yn unol âʼi bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu,
b
cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir cymorth ar ei gyfer,
c
gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a
d
cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.
Dehongli Rhan 520
Yn y Rhan hon—
ystyr “camdriniaeth” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol ac, mewn perthynas â phlentyn, unrhyw niwed arall.
At ddibenion y diffiniad hwn—
- a
mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys—
- i
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;
- ii
bod person yn cael ei dwyllo;
- iii
bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;
- iv
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;
- i
- b
mae i “niwed” (“harm”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 201411;
mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;
- a
mae “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yn cynnwys gwahaniaethu neu ataliaeth anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 200512.
RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio
Staffio - gofynion cyffredinol21
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—
a
i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,
b
i angen unigolion am gymorth,
c
i gynorthwyo unigolion i ddiwallu eu hangen am gymorth,
d
iʼr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant, ac
e
i ofynion y Rheoliadau hyn.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau addas yn cael eu gwneud ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
Addasrwydd staff22
1
Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—
a
cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
b
caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
c
caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs dyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion sy’n cael cymorth neu â phersonau eraill sy’n hyglwyf oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
2
At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—
a
bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;
b
bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;
c
bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;
d
bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;
e
pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, o 1 Ebrill 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru.
3
Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth, at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid ywʼr gofyniad hwn yn gymwys os ywʼr person syʼn gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “gwasanaeth diweddaruʼr GDG”).
4
Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.
5
Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.
6
Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny, rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.
7
Os nad yw person sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;
b
pan fo’n briodol, hysbysu—
i
y corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;
ii
y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cefnogi a datblygu staff23
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—
a
yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;
b
yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill;
c
yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;
d
yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i’w wneud ganddo;
e
yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;
f
yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach syʼn briodol iʼr gwaith y maeʼn ei wneud.
3
Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth fel rheolwr yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gwybodaeth ar gyfer staff24
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o Ddeddf 2016.
Gweithdrefnau disgyblu25
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.
2
Rhaid iʼr weithdrefn ddisgyblu gynnwys—
a
darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogai er budd diogelwch neu lesiant unigolion;
b
darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.
3
At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—
a
y darparwr gwasanaeth,
b
swyddog i’r rheoleiddiwr gwasanaethau,
c
swyddog i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y darperir y gwasanaeth,
d
yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu
e
swyddog heddlu,
yn ôl y digwydd.
RHAN 7Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd
Gofyniad cyffredinol26
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y mangreoedd yn addas ar gyfer y gwasanaeth, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.
Digonolrwydd mangreoedd27
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan y mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth gyfleusterau digonol ar gyfer—
a
goruchwylio staff;
b
storio cofnodion yn ddiogel.
RHAN 8Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau
Cofnodion28
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
sicrhau bod cofnodion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3 yn gywir ac yn gyfredol;
b
cadw’r cofnodion yn ddiogel;
c
gwneud trefniadau addas er mwyn i’r cofnodion barhau i gael eu cadw’n ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau;
d
rhoi’r cofnodion ar gael i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ar gais;
e
pan fo gorchymyn mabwysiadu wedi ei wneud mewn perthynas â phlentyn, gadw cofnodion sy’n ymwneud â’r plentyn a mabwysiadydd y plentyn am o leiaf 100 mlynedd o ddyddiad y gorchymyn mabwysiadu;
f
pan fo gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn cael eu darparu i unigolyn, gadw cofnodion sy’n ymwneud â’r unigolyn am o leiaf 100 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;
g
mewn achos nad yw’n dod o fewn is-baragraff (e) neu (f), gadw—
i
cofnodion sy’n ymwneud ag oedolion am 3 blynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;
ii
cofnodion sy’n ymwneud â phlant am 15 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;
h
sicrhau bod unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth—
i
yn gallu cael mynediad i’w cofnodion, a
ii
yn cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn gallu cael mynediad i’w cofnodion.
Hysbysiadau29
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 4.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r plentyn wedi ei lleoli ar gyfer ei fabwysiadu ynddi am y digwyddiad a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 4.
3
Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraffau (1) a (2) o’r rheoliad hwn gynnwys manylion y digwyddiad.
4
Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.
5
Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.
Gwrthdaro buddiannau30
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion posibl o wrthdaro buddiannau.
Polisi a gweithdrefn gwyno31
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion, gan gynnwys trefniadau ar gyfer—
a
nodi cwynion ac ymchwilio iddynt,
b
rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw,
c
sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad, a
d
cadw cofnodion sy’n ymwneud â’r materion yn is-baragraffau (a) i (c).
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion ac unrhyw gamau gweithredu dilynol a gymerir i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.
4
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
dadansoddi gwybodaeth sy’n ymwneud â chwynion a phryderon, a
b
gan roi sylw iʼr dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd iʼw gwella.
Chwythuʼr chwiban32
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am faterion a all effeithio’n andwyol ar iechyd, diogelwch neu lesiant personau y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.
2
Rhaid iʼr trefniadau hyn gynnwys—
a
cael polisi chwythu’r chwiban yn ei le a gweithredu yn unol â’r polisi hwnnw, a
b
sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
4
Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—
a
yr ymchwilir iʼr pryder,
b
y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad, ac
c
y cedwir cofnod syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).
RHAN 9Gofynion ar reolwyr ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol
Goruchwylio digonolrwydd adnoddau33
1
Rhaid i’r rheolwr adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.
2
Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.
Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth34
Rhaid i’r rheolwr, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—
a
am unrhyw bryderon ynghylch darparu’r gwasanaeth,
b
am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu, ac
c
am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.
Ymgysylltu ag unigolion ac eraill35
1
Rhaid i’r rheolwr roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—
a
unigolion,
b
unrhyw gynrychiolwyr i’r unigolion hynny,
c
staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth, a
d
unrhyw awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr,
ar ansawdd y cymorth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.
2
Rhaid i’r rheolwr adrodd am y safbwyntiau a geir er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
RHAN 10Gofynion ar reolwyr ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth
Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion36
Rhaid i’r rheolwr sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi digwyddiadau, cwynion a materion y mae rhaid gwneud hysbysiadau yn eu cylch yn unol â rheoliad 29.
Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion37
Rhaid i’r rheolwr sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â’r cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod cofnodion yn gywir ac yn gyflawn, y mae rhaid eu cadw yn unol â rheoliad 28.
Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol38
Rhaid i’r rheolwr roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.
RHAN 11Gofynion ar reolwyr ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth
Adolygiad o ansawdd y gwasanaeth39
1
Rhaid i’r rheolwr roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.
2
Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gwasanaeth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol ond o leiaf bob 6 mis.
3
Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i’r rheolwr wneud trefniadau ar gyfer—
a
ystyried canlyniad yr ymgysylltiad ag unigolion ac eraill, fel sy’n ofynnol gan reoliad 35 (ymgysylltu ag unigolion ac eraill);
b
dadansoddi’r data cyfanredol ar ddigwyddiadau, digwyddiadau hysbysadwy, materion diogelu, chwythu’r chwiban, pryderon a chwynion;
c
adolygu unrhyw gamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â chwynion;
d
ystyried canlyniad unrhyw archwiliad o gywirdeb a chyflawnrwydd cofnodion.
4
Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gwasanaeth yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r rheolwr lunio adroddiad i’r darparwr gwasanaeth y mae rhaid iddo gynnwys—
a
asesiad o safon y cymorth a ddarperir, a
b
argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.
RHAN 12Gofynion eraill ar reolwyr
Cymorth ar gyfer codi pryderon40
Rhaid i’r rheolwr sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr gwasanaeth a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
Dyletswydd gonestrwydd41
Rhaid i’r rheolwr weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—
a
unigolion, a
b
unrhyw gynrychiolwyr i’r unigolion hynny.
RHAN 13Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau
Darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr a gymeradwywyd42
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
bod â chynlluniau ysgrifenedig ar ei strategaeth i recriwtio nifer digonol o fabwysiadwyr;
b
bod â chynlluniau cynhwysfawr ar gyfer prosesau paratoi a chymeradwyo ar gyfer mabwysiadwyr yn ei bolisïau a’i weithdrefnau;
c
darparu gwybodaeth ysgrifenedig i ddarpar fabwysiadwyr am y broses fabwysiadu gan gynnwys gwybodaeth am—
i
y polisi a’r gweithdrefnau mewn cysylltiad â’r broses fabwysiadu;
ii
trefniadau ar gyfer asesu’r gwasanaethau cymorth mabwysiadu a’u darparu;
iii
Cofrestr Fabwysiadu Cymru ac unrhyw gofrestr fabwysiadu genedlaethol berthnasol arall;
iv
trefniadau lleol a rhanbarthol;
d
darparu cynhorthwy pan amharwyd ar leoliad neu pan fo perygl y bydd hynny’n digwydd, sy’n cynnwys defnyddio cyfryngu a chyfarfodydd.
RHAN 14Diwygiad amrywiol
Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 200543
1
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 200513 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 5—
a
ar ôl paragraff (1)(b) mewnosoder—
bb
unigolyn sy’n dod o fewn rheoliad 3(e) o Reoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 201914.
b
ym mharagraff (2), hepgorer y geiriau o “ond, o ran darparu” hyd at y diwedd.
ATODLEN 1Gwybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn datganiad o ddiben gan ddarparwr gwasanaeth
Rhaid iʼr datganiad o ddiben a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
a
enw a phrif gyfeiriad yr awdurdod lleol;
b
enw a chyfeiriad y rheolwr;
c
datganiad o ystod anghenion yr unigolion y maeʼr gwasanaeth iʼw ddarparu ar eu cyfer;
d
sut y maeʼr gwasanaeth iʼw ddarparu i ddiwallu anghenion unigolion ac iʼw cefnogi i ddiwallu’r anghenion hynny;
e
manylion strwythur rheoli a staffio’r gwasanaeth;
f
manylion y trefniadau a wnaed i gefnogi anghenion diwylliannol, ieithyddol a chrefyddol unigolion;
g
manylion ynghylch sut y bydd y darparwr gwasanaeth yn diwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolion, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg;
h
nodau ac amcanion y darparwr gwasanaeth mewn perthynas â’r gwasanaeth, gan gynnwys achosion sy’n ymwneud â mabwysiadu trawswladol;
i
y trefniadau y mae’r darparwr gwasanaeth wedi eu rhoi yn eu lle i asesu gwasanaethau cymorth mabwysiadu a gwneud darpariaeth ar eu cyfer;
j
cymwysterau perthnasol a phrofiad y rheolwr;
k
nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff sydd wedi eu cyflogi gan y darparwr gwasanaeth at ddibenion y gwasanaeth;
l
y system sydd yn ei lle i fonitro a gwerthuso darpariaeth y gwasanaethau i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth o safon briodol;
m
y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol;
n
manylion y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a’r gweithdrefnau i asesu ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a’u darparu;
o
p
cyfeiriad a rhif ffôn y rheoleiddiwr gwasanaethau.
ATODLEN 2
RHAN 1Gwybodaeth a dogfennaeth sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau syʼn gweithio mewn gwasanaeth
1
Prawf o bwy ywʼr person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2
Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 199718, copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A oʼr Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan foʼn gymwys, âʼr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200619 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).
3
Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).
4
Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.
5
Pan fo person wedi gweithioʼn flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, iʼr graddau y boʼn rhesymol ymarferol, oʼr rheswm pam y daeth y gyflogaeth neuʼr swydd i ben.
6
Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.
7
Pan foʼn berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.
8
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.
9
Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu cymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu cymorth ar eu cyfer.
10
Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff oʼr fath.
RHAN 2Dehongli Rhan 1
11
At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 oʼr Atodlen hon—
a
os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—
i
os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 22(3) neu (6) (addasrwydd staff), a
ii
os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;
b
os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.
ATODLEN 3
RHAN 1Y cofnodion sydd iʼw cadw gan ddarparwyr gwasanaethau
1
Mewn cysylltiad â phob unigolyn—
a
enw llawn;
b
dyddiad geni;
c
a yw’r person—
i
yn blentyn a all gael ei fabwysiadu, ei riant a’i warcheidwad;
ii
yn berson sy’n dymuno mabwysiadu plentyn;
iii
yn berson mabwysiedig, ei riant, ei riant geni, ei gyn-warcheidwad neu berson perthynol;
d
disgrifiad o’r cymorth y gofynnir amdano;
e
disgrifiad o’r angen am gymorth ynghyd ag unrhyw asesiad o’r angen hwnnw;
f
disgrifiad o’r cymorth a ddarperir;
g
a ddarperir y cymorth ar ran awdurdod lleol o dan reoliadau a wneir o dan adran 3(4)(b) o’r Ddeddf;
h
cynlluniau gan gynnwys—
i
cynlluniau cymorth mabwysiadu;
ii
cynlluniau gofal a chymorth;
iii
cynlluniau lleoliadau;
i
adolygiadau o’r cynlluniau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (h).
2
Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am ddarparu cymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.
3
Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.
4
Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a hwnnw’n gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—
a
enw llawn a chyfeiriad cartref;
b
dyddiad geni;
c
cymwysterau sy’n berthnasol i weithio gydag unigolion a phrofiad o wneud gwaith o’r fath;
d
y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;
e
a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu ac eithrio o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr gwasanaeth;
f
y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’r person yn ei wneud a nifer yr oriau y mae’r person wedi ei gyflogi amdanynt bob wythnos;
g
copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;
h
copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;
i
hyfforddiant y mae’r person wedi ymgymryd ag ef, goruchwyliaeth ac arfarnu;
j
cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;
k
cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.
RHAN 2Dehongli Rhan 1
5
At ddibenion paragraff 1 o Ran 1 oʼr Atodlen hon—
a
mae i “person perthynol” yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005;
b
“cynllun cymorth mabwysiadu” yw’r cynllun sy’n nodi’r gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu eu darparu ar gyfer y plentyn a’r teulu mabwysiadol, sut y darperir hwy a chan bwy (os yw’n gymwys);
c
ystyr “cynllun gofal a chymorth” yw cynllun ar gyfer y plentyn a wneir o dan adran 54 neu adran 83 o Ddeddf 2014;
d
mae i “cynllun lleoliad” yr ystyr a roddir yn rheoliad 36(2) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005.
ATODLEN 4Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth
1
Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda darpar fabwysiadwr pan na fo gorchymyn mabwysiadu wedi ei wneud eto.
2
Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)