NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae adran 9 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag (a) arfer swyddogaethau gan awdurdodau lleol neu asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol mewn perthynas â mabwysiadu, neu (b) arfer swyddogaethau gan asiantaethau cymorth mabwysiadu mewn perthynas â mabwysiadu. Ni chyfyngir ar y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 9 gan y pwerau penodol yn adrannau 10 i 12, 45, 54 a 56 i 65 a 98, na chan unrhyw bwerau eraill sy’n arferadwy mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “darparwyr gwasanaethau”. Cyfeirir at wasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol yn y Rheoliadau hyn fel “gwasanaeth”.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys diffiniadau o dermau penodol sy’n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau. Mae “cymorth” yn cynnwys y cymorth y mae’n ofynnol i wasanaeth ei ddarparu yng nghwrs gwneud trefniadau ar gyfer mabwysiadu neu ar ôl i fabwysiadau gael eu trefnu, yn ogystal â’r gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae’r gwasanaeth yn eu darparu neu’n trefnu i’w darparu.

Mae Rhan 2 yn amlinellu’r gofynion cyffredinol sy’n gymwys i ddarparwyr gwasanaethau o ran y ffordd y darperir y gwasanaeth, gan gynnwys gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben (mae Atodlen 1 yn nodi’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiad o ddiben), y trefniadau ar gyfer monitro a gwella a’r gofyniad i benodi rheolwr i fod yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth. Mae Rhan 2 hefyd yn nodi’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid iddynt fod yn eu lle.

Mae Rhan 3 yn ymdrin â’r gofynion o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu cymorth. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i’r wybodaeth hon fod ar ffurf canllaw ysgrifenedig ac yn nodi gofynion manwl am y canllaw, gan gynnwys ei gynnwys a’i fformat.

Mae Rhan 4 yn cynnwys gofynion o ran safonau’r cymorth sydd i’w ddarparu. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion cyffredinol yn ogystal â gofynion mwy manwl sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth, diwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolion a thrin unigolion â pharch a sensitifrwydd.

Mae Rhan 5 yn cynnwys gofynion penodol mewn perthynas â sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac wedi eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol. Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i bolisïau a gweithdrefnau fod yn eu lle mewn perthynas â diogelu, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod gofynion penodol o ran y camau gweithredu sydd i’w cymryd os bydd honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth.

Mae Rhan 6 yn cynnwys gofynion o ran staffio, sy’n cynnwys gofynion cyffredinol o ran defnyddio niferoedd digonol o staff.

Mae Rhan 6 hefyd yn cynnwys gofynion penodol o ran addasrwydd unigolion sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Mae’r gofynion hyn yn gymwys nid yn unig i gyflogeion ond hefyd i wirfoddolwyr ac i bersonau eraill sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Mae’r gofynion addasrwydd yn cynnwys gofyniad i wybodaeth benodol a dogfennaeth benodol fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau, fel y’u nodir yn Atodlen 2.

Ymhlith y gofynion eraill a gynhwysir yn Rhan 6 mae gofynion sy’n ymwneud â chefnogi a datblygu staff, darparu gwybodaeth i staff a gweithredu gweithdrefn ddisgyblu addas. I sicrhau bod cyflogeion yn adrodd am achosion o gamdriniaeth i berson priodol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i weithdrefn ddisgyblu’r darparwr ddarparu y byddai methu ag adrodd ynddo’i hun yn sail dros achos disgyblu.

Mae Rhan 7 yn sicrhau bod mangreoedd sydd i’w defnyddio mewn perthynas â gwasanaethau yn ddigonol ar gyfer goruchwylio staff a storio cofnodion yn ddiogel.

Mae Rhan 8 yn nodi’r gofyniad i gadw cofnodion mewn cysylltiad â’r gwasanaeth ac mae Atodlen 3 yn nodi’r cofnodion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cadw. Mae Rhan 8 hefyd yn cynnwys gofynion ar y darparwr gwasanaeth i gael polisi cwyno a pholisi chwythu’r chwiban yn eu lle.

Mae Rhannau 9 i 12 yn cynnwys y gofynion a osodir ar y rheolwr a gyflogir gan y gwasanaeth.

Mae Rhan 9 yn nodi’r gofynion ar reolwyr sy’n ymwneud â goruchwylio digonolrwydd adnoddau yn effeithiol a gwneud adroddiadau i’r darparwr gwasanaeth ar ddigonolrwydd yr adnoddau ac ar faterion eraill. Mae’n ofynnol i’r rheolwr wneud trefniadau ar gyfer ymgysylltu ag unigolion ac eraill er mwyn i’w safbwyntiau ar ansawdd y cymorth allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth.

Mae Rhan 10 yn nodi’r gofynion ar y rheolwr ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion eraill, gan gynnwys cadw cofnodion. Rhaid i’r rheolwr hefyd roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion a sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn cael eu cadw’n gyfredol.

Mae Rhan 11 yn nodi’r gofynion mewn perthynas â monitro, adolygu a gwella ansawdd y cymorth a ddarperir, gan gynnwys gwneud adroddiad i’r darparwr gwasanaeth.

Mae Rhan 12 yn nodi gofynion eraill ar y rheolwr, gan gynnwys gofynion i sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu’r chwiban.

Mae Rhan 13 yn cwmpasu gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau ac yn cynnwys gofyniad i gael strategaeth yn ei lle ar gyfer recriwtio niferoedd digonol o fabwysiadwyr ac i ddarparu gwybodaeth am y broses fabwysiadu i ddarpar fabwysiadwyr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.