RHAN 2Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth

3.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

Cynnwys y datganiad o ddiben

4.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio datganiad o ddiben sy’n cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1.

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben

5.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

(b)pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

(3Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.

(5Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.

(6Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—

(a)y rheoleiddiwr gwasanaethau;

(b)unigolion;

(c)unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.

(7Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.

Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella

6.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—

(a)unigolion;

(b)unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn;

(c)unrhyw awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr sydd wedi trefnu bod gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn cael eu darparu gan y gwasanaeth;

(d)staff,

ar ansawdd y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.

(3Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a

(b)rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd y gwasanaeth a lunnir gan y rheolwr yn unol â rheoliad 39(4).

Gofyniad i benodi rheolwr

7.—(1Rhaid i bob darparwr gwasanaeth benodi un o’i swyddogion i fod yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i’r rheoleiddiwr gwasanaethau—

(a)o enw’r person a benodir yn rheolwr, a

(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn ysgrifenedig os yw’r person a benodir o dan baragraff (1) yn peidio â rheoli’r gwasanaeth.

Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr

8.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 22(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

Gofynion eraill mewn perthynas â’r rheolwr

9.—(1Rhaid i ddarparwr gwasanaeth sicrhau bod y person sydd wedi ei benodi’n rheolwr—

(a)yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a

(b)yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y rheolwr yn cydymffurfio â gofynion Rhannau 9 i 12 (dyletswyddau i’w cyflawni gan y rheolwr).

(3Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r rheolwr wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 9 i 12, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr sydd wedi ei benodi neu pan yw’r rheolwr yn absennol o’r gwasanaeth.

Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau

10.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—

(a)diogelu (gweler rheoliad 19);

(b)cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 23);

(c)disgyblu staff (gweler rheoliad 25);

(d)cwynion (gweler rheoliad 31);

(e)chwythuʼr chwiban (gweler rheoliad 32).

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hefyd gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—

(a)yn briodol i anghenion yr unigolion y darperir cymorth ar eu cyfer,

(b)yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac

(c)yn cael eu cadwʼn gyfredol.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.

Dyletswydd gonestrwydd

11.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—

(a)unigolion;

(b)unrhyw gynrychiolwyr i’r unigolion hynny.