Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019

Rheoliad 28

ATODLEN 3

RHAN 1Y cofnodion sydd iʼw cadw gan ddarparwyr gwasanaethau

1.  Mewn cysylltiad â phob unigolyn—

(a)enw llawn;

(b)dyddiad geni;

(c)a yw’r person—

(i)yn blentyn a all gael ei fabwysiadu, ei riant a’i warcheidwad;

(ii)yn berson sy’n dymuno mabwysiadu plentyn;

(iii)yn berson mabwysiedig, ei riant, ei riant geni, ei gyn-warcheidwad neu berson perthynol;

(d)disgrifiad o’r cymorth y gofynnir amdano;

(e)disgrifiad o’r angen am gymorth ynghyd ag unrhyw asesiad o’r angen hwnnw;

(f)disgrifiad o’r cymorth a ddarperir;

(g)a ddarperir y cymorth ar ran awdurdod lleol o dan reoliadau a wneir o dan adran 3(4)(b) o’r Ddeddf;

(h)cynlluniau gan gynnwys—

(i)cynlluniau cymorth mabwysiadu;

(ii)cynlluniau gofal a chymorth;

(iii)cynlluniau lleoliadau;

(i)adolygiadau o’r cynlluniau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (h).

2.  Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am ddarparu cymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.

3.  Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.

4.  Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a hwnnw’n gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—

(a)enw llawn a chyfeiriad cartref;

(b)dyddiad geni;

(c)cymwysterau sy’n berthnasol i weithio gydag unigolion a phrofiad o wneud gwaith o’r fath;

(d)y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;

(e)a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu ac eithrio o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr gwasanaeth;

(f)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’r person yn ei wneud a nifer yr oriau y mae’r person wedi ei gyflogi amdanynt bob wythnos;

(g)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;

(h)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;

(i)hyfforddiant y mae’r person wedi ymgymryd ag ef, goruchwyliaeth ac arfarnu;

(j)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;

(k)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

RHAN 2Dehongli Rhan 1

5.  At ddibenion paragraff 1 o Ran 1 oʼr Atodlen hon—

(a)mae i “person perthynol” yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005;

(b)“cynllun cymorth mabwysiadu” yw’r cynllun sy’n nodi’r gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu eu darparu ar gyfer y plentyn a’r teulu mabwysiadol, sut y darperir hwy a chan bwy (os yw’n gymwys);

(c)ystyr “cynllun gofal a chymorth” yw cynllun ar gyfer y plentyn a wneir o dan adran 54 neu adran 83 o Ddeddf 2014;

(d)mae i “cynllun lleoliad” yr ystyr a roddir yn rheoliad 36(2) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005.