Search Legislation

Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) (Diwygio) (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 293 (Cy. 71)

Trydan, Cymru

Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) (Diwygio) (Cymru) 2019

Gwnaed

18 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 96 a 192 o Ddeddf Ynni 2004(1), a pharagraff 4(1) o Atodlen 16 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) (Diwygio) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.

Diwygiadau i Reoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) 2007

2.—(1Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) 2007(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5 (cyflwyno hysbysiad o gais am hysbysiad parth diogelwch), yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)the Welsh Ministers, in the case of a safety zone proposed or located wholly or partly in Welsh waters(3), except where the Welsh Ministers are the appropriate Minister;.

(3Yn rheoliad 9 (llestrau a gweithgareddau a ganiateir mewn parthau diogelwch), ar ôl paragraff (1)(a) mewnosoder—

(aa)(in the case of a safety zone in respect of which the Welsh Ministers are the appropriate Minister) belonging to, or acting under the authority of, a government department, the Environment Agency(4), the Natural Resources Body for Wales(5) or the Scottish Environment Protection Agency(6), and engaged in—

(i)the provision of services for,

(ii)the transport of persons or goods to or from, or

(iii)the inspection of,

any existing or proposed renewable energy installation in that safety zone;.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) 2007 (O.S. 2007/1948) (“Rheoliadau 2007”) o ganlyniad i adran 41 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4), sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2019.

Mae adran 41 yn diwygio adrannau 95 a 96 o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) (“Deddf 2004”) fel y bydd gan Weinidogion Cymru, o 1 Ebrill 2019, swyddogaethau mewn perthynas â datgan parthau diogelwch o gwmpas gosodiadau ynni adnewyddadwy alltraeth (sydd â gallu cynhyrchu o hyd at 350 megawat) yn nyfroedd Cymru. Ystyr “dyfroedd Cymru” yw hynny o ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos i Gymru, a pharth Cymru. Mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Mae Rheoliadau 2007 yn nodi’r wybodaeth y mae’n ofynnol iddi fynd gyda chais parth diogelwch, yn ogystal â’r gofynion gweithdrefnol y mae angen eu bodloni. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer esemptiadau rhag y gwaharddiad a nodir yn adran 96 o Ddeddf 2004 ar fynediad i barth diogelwch a gweithgareddau ynddo.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau 2007 er mwyn adlewyrchu’r newid yn y cyfrifoldebau am ddatgan parthau diogelwch yn nyfroedd Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2004 p. 20 (“Deddf 2004”). Gweler adran 95(1A)(b) i gael y diffiniad o “appropriate Minister” a pharagraff 4(4) o Atodlen 16 i gael y diffiniad o “prescribed”. Diwygiwyd adran 96 gan adran 62(7) ac (8) o Ddeddf yr Alban 2016 (p. 11) (“Deddf 2016”) ac adran 41(5) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (“Deddf 2017”). Diwygiwyd adran 192 gan adran 62(16) o Ddeddf 2016 a pharagraff 60 o Atodlen 6 i Ddeddf 2017. Diwygiwyd Atodlen 16 gan adran 62(18) a (19) o Ddeddf 2016 a pharagraff 61 o Atodlen 6 i Ddeddf 2017.

(2)

O.S. 2007/1948, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Gweler adran 104 o Ddeddf 2004 am y diffiniad o “Welsh waters”.

(4)

Sefydlwyd Asiantaeth yr Amgylchedd gan adran 1 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25).

(5)

Sefydlwyd Corff Adnoddau Naturiol Cymru gan erthygl 3 o O.S. 2012/1903 (Cy. 230).

(6)

Sefydlwyd Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (Scottish Environmental Protection Agency) gan adran 20 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources