(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi cydsyniadau o dan adran 36 o Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989”) i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod priodol mewn cysylltiad â hi.
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at gais am gydsyniad o dan adran 36 o Ddeddf 1989 yn cynnwys unrhyw gais o dan adran 36A o’r Ddeddf honno am ddatganiad mewn perthynas â hawliau mordwyo cyhoeddus a wneir gyda chais am gydsyniad o dan adran 36 o Ddeddf 1989.
Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol mewn perthynas â cheisiadau a wneir ar ôl 1 Ebrill 2019 o dan adran 36 o Ddeddf 1989 sy’n ymwneud â gorsafoedd cynhyrchu (neu orsafoedd cynhyrchu arfaethedig) yn nyfroedd Cymru sydd â gallu cynhyrchu nad yw’n fwy na 350 megawat neu a fydd â gallu cynhyrchu nad yw’n fwy na 350 megawat.
Ystyr “dyfroedd Cymru” yw hynny o ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos i Gymru, a pharth Cymru. Mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch—
(a)gwneud ceisiadau;
(b)gofynion cyflwyno a chyhoeddusrwydd;
(c)o dan ba amgylchiadau y mae ymchwiliadau cyhoeddus i’w cynnal; a
(d)cwmpas ymchwiliadau cyhoeddus pan fo un neu ragor o awdurdodau cynllunio perthnasol.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau pan gaiff hysbysiad sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn ei gyfuno â hysbysiad sy’n ofynnol gan neu o dan Atodlen 16 i Ddeddf Ynni 2004.
Maent hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.