Cyflwyno hysbysiad am gais pan na fo awdurdod cynllunio perthnasol5.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan na fo unrhyw ran o’r lle y mae cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol.
(2)
Pan fo unrhyw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr neu F1unrhyw gyngor dosbarth yng Ngogledd Iwerddon, ym marn y ceisydd, yn debygol o fod â buddiant yn y cais, rhaid i’r ceisydd gyflwyno hysbysiad am y cais i’r corff hwnnw, ac o fewn saith niwrnod o’i gyflwyno felly, rhoi gwybod i Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig beth yw enw’r corff hwnnw a rhoi copi o’r hysbysiad iddynt.
(3)
Pan na fo corff o’r math a grybwyllir ym mharagraff (2), ym marn y ceisydd, yn debygol o fod â buddiant yn y cais, rhaid i’r ceisydd roi gwybod i Weinidogion Cymru am y ffaith honno.
(4)
Pan fo unrhyw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr neu F2unrhyw gyngor dosbarth yng Ngogledd Iwerddon, ym marn Gweinidogion Cymru, yn debygol o fod â buddiant yn y cais, caiff Gweinidogion Cymru, oni bai eu bod wedi cael hysbysiad o dan baragraff (2) i’r perwyl bod hysbysiad am gais wedi ei gyflwyno i’r corff hwnnw, gyfarwyddo bod rhaid i’r ceisydd gyflwyno hysbysiad am gais i’r corff hwnnw.