Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 295 (Cy. 73)

Trydan, Cymru

Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019

Gwnaed

18 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 36(8A) a 60 o Ddeddf Trydan 1989(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr un ystyr ag a roddir i “local planning authority” yn Rhan 1 o Ddeddf 1990;

ystyr “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”), mewn perthynas â thir yng Nghymru, yw awdurdod cynllunio lleol;

ystyr “cais” (“application”) yw cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad o dan adran 36(2) i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu(3), ynghyd ag unrhyw gais o dan adran 36A(4) am ddatganiad sy’n ymwneud â hawliau mordwyo a wneir gyda’r cais o dan adran 36;

ystyr “datblygiad adran 90” (“section 90 development”) yw unrhyw ddatblygiad y mae’r ceisydd, wrth wneud cais, yn gofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan adran 90(2) neu (2ZA) o Ddeddf 1990(5) (caniatâd cynllunio tybiedig ar gyfer datblygu gydag awdurdodiad llywodraeth) mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(6).

(2Oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o Ddeddf Trydan 1989.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Cynnwys ceisiadauLL+C

3.  Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a rhaid iddo ddisgrifio drwy gyfeiriad at fap y lle y mae’r cais yn ymwneud ag ef, hynny yw, y lle—

(a)y bwriedir adeiladu’r orsaf gynhyrchu, y lle y bydd yr estyniad arfaethedig neu’r lle y mae’r orsaf y bwriedir ei gweithredu wedi ei lleoli; a

(b)y bydd unrhyw ddatblygiad adran 90 wedi ei leoli.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Cyflwyno hysbysiad am gais i awdurdod cynllunio perthnasolLL+C

4.  Pan wneir cais i Weinidogion Cymru a bod rhan o’r lle y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol, rhaid cyflwyno hysbysiad am y cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Cyflwyno hysbysiad am gais pan na fo awdurdod cynllunio perthnasolLL+C

5.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan na fo unrhyw ran o’r lle y mae cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol.

(2Pan fo unrhyw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr neu [F1unrhyw gyngor dosbarth] yng Ngogledd Iwerddon, ym marn y ceisydd, yn debygol o fod â buddiant yn y cais, rhaid i’r ceisydd gyflwyno hysbysiad am y cais i’r corff hwnnw, ac o fewn saith niwrnod o’i gyflwyno felly, rhoi gwybod i Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig beth yw enw’r corff hwnnw a rhoi copi o’r hysbysiad iddynt.

(3Pan na fo corff o’r math a grybwyllir ym mharagraff (2), ym marn y ceisydd, yn debygol o fod â buddiant yn y cais, rhaid i’r ceisydd roi gwybod i Weinidogion Cymru am y ffaith honno.

(4Pan fo unrhyw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr neu [F2unrhyw gyngor dosbarth] yng Ngogledd Iwerddon, ym marn Gweinidogion Cymru, yn debygol o fod â buddiant yn y cais, caiff Gweinidogion Cymru, oni bai eu bod wedi cael hysbysiad o dan baragraff (2) i’r perwyl bod hysbysiad am gais wedi ei gyflwyno i’r corff hwnnw, gyfarwyddo bod rhaid i’r ceisydd gyflwyno hysbysiad am gais i’r corff hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Cyflwyno hysbysiad am gais i bersonau eraillLL+C

6.—(1Rhaid i’r ceisydd gyflwyno hysbysiad am gais i—

(a)y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur(7);

(b)Corff Adnoddau Naturiol Cymru(8);

(c)Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau;

(d)awdurdod harbwr, yn achos datblygiad mewn harbwr, neu gerllaw harbwr, sydd o dan reolaeth yr awdurdod hwnnw;

(e)unrhyw bersonau eraill yn ôl cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.

(2Yn y rheoliad hwn, mae i “harbwr” ac “awdurdod harbwr” yr un ystyron ag a roddir i “harbour” a “harbour authority” yn adran 57 o Ddeddf Harbyrau 1964(9) (dehongli).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Cyhoeddi hysbysiad am gaisLL+C

7.—(1Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad am gais—

(a)dwy wythnos yn olynol mewn un neu ragor o bapurau newydd lleol sy’n debygol o ddod i sylw’r rheini y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt;

(b)yn Lloyd’s List ac mewn un neu ragor o bapurau newydd [F3sy’n cylchredeg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon];

(c)os oes un neu ragor o gyfnodolion masnach pysgota priodol yn cylchredeg a gyhoeddir fesul ysbaid nad yw’n fwy nag un mis, mewn o leiaf un cyfnodolyn masnach o’r fath; a

(d)yn y London Gazette.

(2Rhaid i’r hysbysiad ddisgrifio, drwy gyfeiriad at fap, y lle y mae’r cais yn berthnasol iddo, a rhaid iddo ddarparu y gall aelodau o’r cyhoedd edrych ar y map, yn ystod oriau swyddfa arferol, naill ai—

(a)yn swyddfeydd—

(i)unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol y mae’r ceisydd yn cyflwyno hysbysiad am y cais iddo o dan reoliad 4; neu

(ii)pob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru y mae’r ceisydd yn cyflwyno hysbysiad am y cais iddo o dan reoliad 5(2) neu yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru o dan reoliad 5(4); neu

(b)mewn cyfeiriad sy’n rhesymol hygyrch i’r rheini y mae’r cydsyniad y gwneir cais amdano yn debygol o effeithio arnynt os caiff ei roi.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i gais am estyniad neu newid i’r dull gweithredu pan fo Gweinidogion Cymru—

(a)yn ystyried bod yr estyniad neu’r newid yn un mân ei natur; a

(b)yn rhoi cyfarwyddyd sy’n hepgor gofynion y paragraffau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Gwrthwynebiadau gan dderbynyddion hysbysiad am gaisLL+C

8.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir neu a gyhoeddir yn unol â rheoliadau 5, 6 neu 7(1) nodi’r cyfnod (na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau o ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad, neu’n llai na 28 o ddiwrnodau o ddyddiad neu ddyddiad diweddaraf cyhoeddi’r hysbysiad) y caniateir gwneud gwrthwynebiadau i’r cais i Weinidogion Cymru o’i fewn, a’r dull y caniateir gwneud hynny, gan bersonau ac eithrio unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol.

(2Rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol gyflwyno hysbysiad am unrhyw wrthwynebiad ganddo i gais i Weinidogion Cymru o fewn pedwar mis o ddyddiad y cais, neu o fewn unrhyw gyfnod hwy y mae’r awdurdod yn cytuno arno yn ysgrifenedig gyda Gweinidogion Cymru a’r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Ymchwiliadau cyhoeddus pan fo gwrthwynebiadau gan yr awdurdod cynllunio perthnasolLL+C

9.—(1Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn gwrthwynebu’r cais ac nad yw ei wrthwynebiad yn cael ei dynnu’n ôl, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)peri i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal;

(b)cyn penderfynu pa un ai i roi eu cydsyniad, ystyried y gwrthwynebiad ac adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau neu amodau a fydd yn rhoi effaith i wrthwynebiad yr awdurdod cynllunio perthnasol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion paragraff (1), ddiystyru unrhyw wrthwynebiad na chafwyd hysbysiad ar ei gyfer gan awdurdod cynllunio perthnasol yn unol â rheoliad 8(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Ymchwiliadau cyhoeddus pan fo gwrthwynebiadau gan bersonau eraillLL+C

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan na fo’n ofynnol i Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(1) beri i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal; ond

(b)pan fo gwrthwynebiadau neu gopïau o wrthwynebiadau wedi eu hanfon at Weinidogion Cymru yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ystyried gwrthwynebiadau neu gopïau o wrthwynebiadau a anfonir atynt yn unol â’r Rheoliadau hyn, ynghyd â phob ystyriaeth berthnasol arall, gyda golwg ar benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn cysylltiad â’r cais; a

(b)peri i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal os ydynt yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, naill ai yn ychwanegol at unrhyw wrandawiad arall neu gyfle i ddatgan gwrthwynebiadau i’r cais neu yn lle hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Cwmpas ymchwiliadau cyhoeddus pan fo un neu ragor o awdurdodau cynllunio perthnasolLL+C

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

(a)ymchwiliad cyhoeddus i’w gynnal yn unol â rheoliad 9(1) neu 10; a

(b)y cais yn ymwneud â lle y mae rhan ohono yn ardal un neu ragor o awdurdodau cynllunio perthnasol.

(2Ac eithrio i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall, rhaid cyfyngu ymchwiliad a gynhelir o dan reoliad 9(1) i hynny o’r cais sy’n ymwneud â thir o fewn ardal yr awdurdod sydd wedi gwneud gwrthwynebiad.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i wrthwynebiadau a wneir ac eithrio gan yr awdurdod o dan sylw wrth benderfynu pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan baragraff (2) ac wrth benderfynu (pan fônt yn rhoi un) pa gyfarwyddyd i’w roi.

(4Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo y caniateir cynnal ymchwiliadau ar wahân mewn perthynas ag unrhyw un neu bob un o’r canlynol—

(a)hynny o’r cais sy’n ymwneud â thir o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol penodol;

(b)hynny o’r cais sy’n ymwneud â rhywle nad yw o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol.

(5At ddibenion paragraff (2) mae awdurdod cynllunio sydd wedi gwneud gwrthwynebiad i’w drin fel pe na bai wedi gwneud hynny os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau neu amodau sy’n bodloni’r gwrthwynebiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Hysbysiad cyfunLL+C

12.  Caniateir i hysbysiad sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn gael ei gyfuno â hysbysiad sy’n ofynnol gan neu o dan Atodlen 16 i Ddeddf Ynni 2004(10) (ceisiadau a chynigion am hysbysiadau o dan adran 95) mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â’r un orsaf gynhyrchu.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Diwygiad canlyniadolLL+C

13.—(1Mae rheoliad 90(3) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(11) (cydsyniadau o dan Ddeddf Trydan 1989: y weithdrefn adolygu) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Cyn is-baragraff (a) mewnosoder—

(za)in a case where the Welsh Ministers are the competent authority, the relevant planning authority within the meaning of regulation 2(1) of the Electricity (Offshore Generating Stations) (Applications for Consent) (Wales) Regulations 2019 (interpretation),.

(3Ar ddechrau is-baragraff (a) mewnosoder “in any other case,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi cydsyniadau o dan adran 36 o Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989”) i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod priodol mewn cysylltiad â hi.

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at gais am gydsyniad o dan adran 36 o Ddeddf 1989 yn cynnwys unrhyw gais o dan adran 36A o’r Ddeddf honno am ddatganiad mewn perthynas â hawliau mordwyo cyhoeddus a wneir gyda chais am gydsyniad o dan adran 36 o Ddeddf 1989.

Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol mewn perthynas â cheisiadau a wneir ar ôl 1 Ebrill 2019 o dan adran 36 o Ddeddf 1989 sy’n ymwneud â gorsafoedd cynhyrchu (neu orsafoedd cynhyrchu arfaethedig) yn nyfroedd Cymru sydd â gallu cynhyrchu nad yw’n fwy na 350 megawat neu a fydd â gallu cynhyrchu nad yw’n fwy na 350 megawat.

Ystyr “dyfroedd Cymru” yw hynny o ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos i Gymru, a pharth Cymru. Mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwneud ceisiadau;

(b)gofynion cyflwyno a chyhoeddusrwydd;

(c)o dan ba amgylchiadau y mae ymchwiliadau cyhoeddus i’w cynnal; a

(d)cwmpas ymchwiliadau cyhoeddus pan fo un neu ragor o awdurdodau cynllunio perthnasol.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau pan gaiff hysbysiad sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn ei gyfuno â hysbysiad sy’n ofynnol gan neu o dan Atodlen 16 i Ddeddf Ynni 2004.

Maent hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1989 p. 29. Mewnosodwyd is-adran (8A) i adran 36 gan baragraff 47 o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (“Deddf 2017”). Mae diwygiadau i adran 60 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Diwygiwyd adran 36 gan adran 93 o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) (“Deddf 2004”), paragraffau 31 a 32 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 12(7) ac (8) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”), adran 78 o Ddeddf Ynni 2016 (p. 20) ac adran 39(7) i (11) o Ddeddf 2017 a pharagraff 47 o Atodlen 6 iddi. Nid yw’r diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Gweler adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989”) am y dehongliad o “generating station”.

(4)

Mewnosodwyd adran 36A yn Neddf 1989 gan adran 99(1) o Ddeddf 2004 ac fe’i diwygiwyd gan adran 12(7) ac (8) o Ddeddf 2009 ac adran 40(1) i (5) o Ddeddf 2017.

(5)

Amnewidiwyd adran 90(2) a (2ZA) gan adran 21(2) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) ac fe’i diwygiwyd gan adran 39(13) o Ddeddf 2017.

(7)

Ailgyfansoddwyd y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn unol ag Atodlen 4 i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16): gweler adran 31(b) o’r Ddeddf honno.

(8)

Sefydlwyd Corff Adnoddau Naturiol Cymru gan erthygl 3 o O.S. 2012/1903 (Cy. 230).

(9)

1964 p. 40. Diwygiwyd adran 57 gan baragraff 33(a) o Atodlen 13 i Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21). Nid yw’r diwygiadau eraill i adran 57 yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

2004 p. 20. Diwygiwyd Atodlen 16 gan adran 62(1), (17), (18) a (19) o Ddeddf yr Alban 2016 (p. 11) a pharagraff 61 o Atodlen 6 i Ddeddf 2017. Nid yw’r diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.