Ffioedd
2.—(1) Rhaid i’r ceisydd dalu ffi i Weinidogion Cymru am wneud cais.
(2) Y ffi yw cyfanswm—
(a)y ffi gychwynnol yn unol â rheoliad 3;
(b)y ffi ar gyfer archwilio cais a gyfrifir yn unol â rheoliad 4; ac
(c)y ffi ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch cais a gyfrifir yn unol â rheoliad 5.