xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 297 (Cy. 75)

Trydan, Cymru

Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019

Gwnaed

18 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 36C(2) a (6) a 60 o Ddeddf Trydan 1989(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”) yn achos cais amrywio, neu wrth ofyn am gyfarwyddyd adran 90 i fynd gyda chais amrywio, yw unrhyw un o’r cyrff a ganlyn—

(a)

awdurdod cynllunio lleol (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf 1990 (awdurdodau cynllunio lleol: cyffredinol)) yng Nghymru a Lloegr;

(b)

Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon,

sydd wedi eu nodi gan y ceisydd o dan reoliad 3(1)(e) neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(7);

ystyr “cais amrywio” (“variation application”) yw cais i Weinidogion Cymru i amrywio cydsyniad adran 36 a wneir o dan adran 36C(1) o’r Ddeddf;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n cael budd o’r cydsyniad adran 36 ac sy’n gwneud cais amrywio mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “cydsyniad adran 36” (“section 36 consent”) yw cydsyniad o dan adran 36 o’r Ddeddf(2) (cydsyniad sy’n ofynnol ar gyfer adeiladu etc. gorsafoedd cynhyrchu) gan gynnwys unrhyw amrywiadau i’r cydsyniad hwnnw a wneir o dan adran 36C(4) o’r Ddeddf sy’n ymwneud â gorsaf gynhyrchu yn nyfroedd Cymru (o fewn ystyr adran 36 o’r Ddeddf) nad yw’n fwy na 350 megawat neu na fydd yn fwy na 350 megawat pan fydd wedi ei hadeiladu neu wedi ei hestyn;

ystyr “cydsyniad adran 36 perthnasol” (“relevant section 36 consent”) yw’r cydsyniad adran 36 y gwneir cais amrywio mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “cyfarwyddyd adran 90” (“section 90 direction”) yw cyfarwyddyd o dan adran 90(2) neu (2ZA) o Ddeddf 1990(3) (caniatâd cynllunio tybiedig ar gyfer datblygu gydag awdurdodiad llywodraeth);

mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf 1990(4) (ystyr “development” a “new development”);

ystyr “datblygiad adran 90” (“section 90 development”) yw unrhyw ddatblygiad—

(a)

y rhoddwyd cyfarwyddyd adran 90 mewn cysylltiad ag ef wrth roi’r cydsyniad adran 36 perthnasol; neu

(b)

y mae’r ceisydd, wrth wneud cais amrywio, yn gofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd adran 90 mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “datblygiad arfaethedig” (“proposed development”) yw—

(a)

yr orsaf gynhyrchu, neu’r estyniad i orsaf gynhyrchu, y byddai gan y ceisydd awdurdodiad i’w hadeiladu neu i’w adeiladu o dan gydsyniad adran 36 perthnasol pe bai’r cydsyniad hwnnw wedi ei amrywio fel y gofynnir mewn cais amrywio;

(b)

y ffordd y byddai gorsaf gynhyrchu sydd wedi ei hadeiladu neu ei hestyn felly yn cael ei hawdurdodi i weithredu o dan y cydsyniad adran 36 perthnasol a amrywiwyd felly; ac

(c)

unrhyw ddatblygiad adran 90 nad yw’n ofynnol cael cydsyniad adran 36 mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(5);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trydan 1989;

mae “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”) yn cynnwys gorsaf gynhyrchu arfaethedig(6);

ystyr “y Rheoliadau AEA” (“the EIA Regulations”) yw Rheoliadau Gwaith Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2017(7).

Cynnwys ceisiadau amrywio

3.—(1Rhaid i gais amrywio—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig;

(b)disgrifio lleoliad y datblygiad arfaethedig drwy gyfeirio at fap;

(c)datgan—

(i)pam y cynigir y dylid amrywio’r cydsyniad adran 36 perthnasol;

(ii)pa ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i farn a fynegwyd gan bersonau y mae’r ceisydd wedi ymgynghori â hwy ynghylch yr amrywiad arfaethedig;

(d)cynnwys—

(i)drafft o’r amrywiadau y mae’r ceisydd yn cynnig y dylid eu gwneud i’r cydsyniad adran 36 perthnasol; a

(ii)copïau o unrhyw fapiau neu blaniau na chyfeirir atynt yn y cydsyniad adran 36 perthnasol ond y mae’r ceisydd yn cynnig y dylai’r cydsyniad adran 36 perthnasol gyfeirio atynt ar ôl ei amrywio; ac

(e)nodi pa un o’r cyrff y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “awdurdod cynllunio perthnasol” yn rheoliad 2 sydd, ym marn y ceisydd, yn debygol o fod â buddiant yn y cais amrywio.

(2Rhaid i gais amrywio gynnwys manylion—

(a)y cydsyniad adran 36 perthnasol, ac, os na chafodd y cydsyniad hwnnw ei roi i’r ceisydd, sut y mae’r ceisydd yn cael budd o’r cydsyniad hwnnw;

(b)unrhyw gyfarwyddyd adran 90 a roddir wrth roi’r cydsyniad adran 36 perthnasol;

(c)unrhyw hawlen, trwydded, cydsyniad neu awdurdodiad arall (ac eithrio’r cydsyniad adran 36 perthnasol) a roddir mewn cysylltiad ag adeiladu neu weithredu’r datblygiad arfaethedig (“awdurdodiad perthnasol”), gan gynnwys unrhyw amrywiad neu amnewidiad o awdurdodiad perthnasol; a

(d)unrhyw gais sydd wedi ei wneud am awdurdodiad perthnasol neu amrywiad i awdurdodiad perthnasol.

(3Pan fo’r ceisydd yn gofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd adran 90 wrth amrywio’r cydsyniad adran 36 perthnasol, rhaid i’r cais—

(a)nodi’r datblygiad adran 90 y gofynnir am gyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef a disgrifio ei leoliad drwy gyfeirio at fap;

(b)datgan—

(i)pam y cynigir y dylid gwneud y cyfarwyddyd; a

(ii)pa ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i farn a fynegwyd gan bersonau y mae’r ceisydd wedi ymgynghori â hwy ynghylch y cyfarwyddyd arfaethedig; ac

(c)cynnwys—

(i)drafft o’r cyfarwyddyd arfaethedig; a

(ii)copïau o unrhyw fapiau neu blaniau y cynigir y dylai’r cyfarwyddyd adran 90 gyfeirio atynt—

(aa)na chyfeirir atynt yn y cydsyniad adran 36 perthnasol nac unrhyw gyfarwyddyd adran 90 a roddir wrth roi’r cydsyniad adran 36 perthnasol; neu

(bb)nad ydynt wedi eu cynnwys yn y cais yn unol â pharagraff (1)(d)(ii).

Asesu addasrwydd ar gyfer cyhoeddi

4.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais amrywio, rhaid iddynt—

(a)ystyried a yw’n addas ar gyfer ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 5 ai peidio; a

(b)rhoi hysbysiad i’r ceisydd o dan baragraff (2) neu (6) o fewn tair wythnos o’i gael.

(2Os na fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cais yn addas i’w gyhoeddi, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ceisydd—

(a)am eu penderfyniad a’r rhesymau am y penderfyniad hwnnw; a

(b)y caiff wneud sylwadau i Weinidogion Cymru gyda golwg ar ddarbwyllo Gweinidogion Cymru bod y cais yn addas i’w gyhoeddi.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddynt—

(a)pennu yn ysgrifenedig ddyddiad erbyn pryd y mae unrhyw sylwadau o dan baragraff (2)(b) i’w gwneud; a

(b)os bydd y ceisydd yn methu â gwneud sylwadau erbyn y dyddiad a bennir felly, rhoi hysbysiad gwrthod i’r ceisydd.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo’r ceisydd yn gwneud sylwadau i Weinidogion Cymru yn ychwanegol at hysbysiad a roddir iddo o dan baragraff (2)(b).

(5Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried sylwadau’r ceisydd—

(a)yn parhau i ystyried nad yw’r cais yn addas i’w gyhoeddi, rhaid iddynt roi hysbysiad pellach o dan baragraff (2) neu hysbysiad gwrthod; neu

(b)yn ystyried bod y cais yn addas i’w gyhoeddi, rhaid iddynt roi hysbysiad o dan baragraff (6).

(6Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cais yn addas i’w gyhoeddi, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ceisydd am eu penderfyniad.

(7Pan fo—

(a)paragraff (6) yn gymwys; a

(b)cyrff y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “awdurdod cynllunio perthnasol” yn rheoliad 2

(i)y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn debygol o fod â buddiant yn y cais; a

(ii)nad ydynt wedi eu nodi gan y ceisydd o dan reoliad 3(1)(e),

rhaid i Weinidogion Cymru nodi’r cyrff hynny yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (6).

(8At ddibenion y rheoliad hwn, mae cais amrywio yn addas i’w gyhoeddi yn unol â rheoliad 5

(a)mewn achos pan fo’n ofynnol llunio adroddiad AEA mewn cysylltiad â’r cais amrywio o dan y Rheoliadau AEA (am fod y cais ar gyfer datblygiad AEA o fewn ystyr y Rheoliadau hynny), os oes adroddiad AEA wedi ei ddarparu i [Weinidogion Cymru]; a

(b)os ymddengys i Weinidogion Cymru—

(i)bod y ceisydd yn dymuno adeiladu, gweithredu neu estyn gorsaf gynhyrchu mewn modd nad yw’r cydsyniad adran 36 perthnasol yn ei awdurdodi;

(ii)nad yw’r datblygiad arfaethedig yn wahanol i’r orsaf gynhyrchu y mae’r cydsyniad adran 36 perthnasol yn cyfeirio ato i’r graddau (o ran ei adeiladu, ei estyn, ei weithredu neu ei effaith amgylcheddol debygol) y mae awdurdodiad yn ofynnol ar ei gyfer gan—

(aa)gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad datblygu o fewn ystyr adran 31 o Ddeddf Cynllunio 2008(8) (pa bryd y mae cydsyniad datblygu yn ofynnol); neu

(bb)cydsyniad adran 36 newydd (yn hytrach nag amrywiad i’r cydsyniad adran 36 perthnasol); a

(iii)bod digon o wybodaeth yn y cais i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniad am y cais.

(9Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “adroddiad AEA” yr ystyr a roddir i “EIA report” yn y Rheoliadau AEA;

(b)ystyr “hysbysiad gwrthod” yw hysbysiad bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan adran 36C(4) o’r Ddeddf na fyddai’n briodol gwneud unrhyw amrywiad i’r cydsyniad adran 36 perthnasol.

Cyhoeddi

5.—(1Pan fo ceisydd wedi cael hysbysiad o dan reoliad 4(6), rhaid cyhoeddi’r cais amrywio, a rhaid hysbysebu ei fod yn cael ei gyhoeddi, yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Rhaid i’r ceisydd neu, pan fo paragraff (3) yn gymwys, Weinidogion Cymru gyhoeddi ar wefan ( y “gwefan ceisiadau”)—

(a)crynodeb o’r cais amrywio;

(b)y cais;

(c)dolen at y cydsyniad adran 36 perthnasol, unrhyw gyfarwyddyd adran 90 a roddir wrth roi’r cydsyniad adran 36 perthnasol ac unrhyw ddatganiad (ar ffurf llythyr penderfyniad, hysbysiad am benderfyniad neu fel arall) a roddir gan yr awdurdod priodol(9) o dan reoliad 10(3) o Reoliadau Gwaith Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2000(10) neu reoliad 33 o’r Rheoliadau AEA wrth roi’r cydsyniad adran 36 perthnasol.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r datblygwr yn ysgrifenedig y bydd Gweinidogion Cymru yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau ym mharagraff (2).

(4Rhaid i’r ceisydd gyflwyno copi o’r cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol (os oes un).

(5Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad am y cais amrywio—

(a)dwy wythnos yn olynol mewn un neu ragor o bapurau newydd lleol sy’n debygol o ddod i sylw’r rheini y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt;

(b)yn y London Gazette;

(c)yn Lloyd’s List ac mewn un neu ragor o bapurau newydd cenedlaethol; a

(d)os oes un neu ragor o gyfnodolion masnach pysgota priodol yn cylchredeg a gyhoeddir fesul ysbaid nad yw’n fwy nag un mis, mewn o leiaf un cyfnodolyn masnach o’r fath,

a chyflwyno copi o’r hysbysiad i’r awdurdod cynllunio perthnasol (os oes un).

(6O ran yr hysbysiad sy’n ofynnol gan baragraff (5)

(a)ni chaniateir ei gyhoeddi cyn bod y ceisydd wedi cydymffurfio â pharagraffau (2) a (4) neu, pan fo paragraff (3) yn gymwys, bod Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â pharagraff (2) a bod y ceisydd wedi cydymffurfio â pharagraff (4);

(b)rhaid iddo ddatgan—

(i)bod cais amrywio wedi ei wneud a bod y ceisydd wedi cael hysbysiad o dan reoliad 4(6);

(ii)cyfeiriad y wefan ceisiadau, a bod gwybodaeth ychwanegol ynghylch y cais i’w gweld ar y wefan ceisiadau;

(iii)y dyddiad, nid llai na phedair wythnos ar ôl y dyddiad y mae’r hysbysiad olaf i’w gyhoeddi, erbyn pryd y mae rhaid i unrhyw berson ac eithrio awdurdod cynllunio perthnasol anfon gwrthwynebiadau i’r datblygiad arfaethedig, neu sylwadau eraill ynghylch y cais, i Weinidogion Cymru; a

(iv)y cyfeiriad y mae unrhyw sylwadau o’r fath i’w hanfon iddo; ac

(c)rhaid iddo nodi—

(i)y ceisydd;

(ii)y cydsyniad adran 36 perthnasol;

(iii)yr orsaf gynhyrchu y mae’n berthnasol iddo; a

(iv)lle sy’n rhesymol hygyrch i’r rheini y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt ac y gellir gweld copïau o’r cais amrywio.

Ymchwiliadau cyhoeddus i geisiadau amrywio

6.—(1Caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal ynghylch cais amrywio os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar ôl ystyried—

(a)unrhyw sylwadau a wneir ynghylch cais amrywio i Weinidogion Cymru—

(i)y mae awdurdod cynllunio perthnasol yn eu gwneud o fewn dau fis i’r dyddiad y cyflwynwyd copi o’r cais iddo o dan reoliad 5(4); a

(ii)y mae unrhyw berson arall yn eu gwneud ar y dyddiad a bennir yn unol â rheoliad 5(6)(b)(iii), neu cyn y dyddiad hwnnw,

pan na fo’r sylwadau hynny’n cael eu tynnu’n ôl; a

(b)pob ystyriaeth berthnasol arall.

(2Os bydd Gweinidogion Cymru yn peri i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal i gais amrywio cânt wneud hynny yn ychwanegol at unrhyw wrandawiad neu gyfle arall i wneud sylwadau ynghylch y cais neu yn lle unrhyw wrandawiad neu gyfle arall o’r fath.

Tynnu ceisiadau amrywio yn ôl

7.—(1Caiff ceisydd dynnu cais amrywio yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(2Os caiff cais amrywio ei dynnu’n ôl ar ôl iddo gael ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol a’r cyrff ymgynghori o fewn ystyr y Rheoliadau AEA ei fod wedi ei dynnu’n ôl.

Caniatáu amser ychwanegol

8.  Caiff Gweinidogion Cymru mewn unrhyw achos penodol ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer cymryd unrhyw gam sy’n ofynnol, neu y galluogir ei gymryd, yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, ac mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddiwrnod erbyn pryd y mae’n ofynnol cymryd unrhyw gam, neu y galluogir cymryd unrhyw gam, neu at gyfnod y mae’n ofynnol gwneud hynny o’i fewn, i’w dehongli yn unol â hynny.

Dirymu

9.  Mae Rheoliadau Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru a Lloegr) 2013(11) wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys i gais amrywio.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ceisiadau i Weinidogion Cymru i amrywio cydsyniadau i adeiladu, estyn a gweithredu gorsafoedd cynhyrchu trydan alltraeth penodol yn nyfroedd Cymru sydd wedi eu rhoi o dan adran 36 o Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989” a chydsyniadau o’r fath “cydsyniadau adran 36”).

O dan adran 36C o Ddeddf 1989, caiff y person sydd am y tro â’r hawl i gael budd o’r cydsyniad adran 36, o 1 Ebrill 2019, wneud cais i Weinidogion Cymru i amrywio’r cydsyniad hwnnw pan fo’n ymwneud â gorsaf gynhyrchu (neu orsaf gynhyrchu arfaethedig) yn nyfroedd Cymru nad yw’n fwy na 350 megawat, neu na fydd yn fwy na 350 megawat pan fydd wedi ei hadeiladu neu wedi ei hestyn.

Ystyr “dyfroedd Cymru” yw hynny o ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos i Gymru, a pharth Cymru (o fewn ystyr Deddf Llywodraeth Cymru 2006).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)yr hyn y mae rhaid ei gynnwys mewn cais amrywio neu y mae rhaid mynd gyda chais amrywio;

(b)gofynion hysbysu a chyhoeddusrwydd;

(c)pryd y mae ymchwiliadau cyhoeddus i’w cynnal;

(d)tynnu ceisiadau amrywio yn ôl; ac

(e)estyn yr amser a ganiateir ar gyfer cam penodol o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliadau Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru a Lloegr) 2013 wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys i gais i Weinidogion Cymru o dan adran 36C o Ddeddf 1989.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1989 p. 29. Mewnosodwyd adran 36C gan adran 20(1) a (2) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) (“Deddf 2013”) ac fe’i diwygiwyd gan adran 39(12) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (“Deddf 2017”) a pharagraff 48 o Atodlen 6 iddi. Mae diwygiadau i adran 60 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Diwygiwyd adran 36 gan adran 93 o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) , paragraffau 31 a 32 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 12(7) ac (8) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) , adran 78 o Ddeddf Ynni 2016 (p. 20) ac adran 39(7) i (11) o Ddeddf 2017 a pharagraff 47 o Atodlen 6 iddi. Nid yw’r diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Amnewidiwyd adran 90(2) a (2ZA) gan adran 21(2) o Ddeddf 2013 ac fe’i diwygiwyd gan adran 39(13) o Ddeddf 2017.

(4)

Diwygiwyd adran 55 gan adrannau 13(1) a (2) a 14 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991(p. 34) , a pharagraff 9 o Atodlen 6, ac Atodlen 19 iddi, adran 49(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 6, ac Atodlen 9 iddi, a chan O.S. 1999/293.

(5)

1990 p. 8 .

(6)

Gweler adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989”) am y dehongliad o “generating station”.

(7)

O.S. 2017/580, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

2008 p. 29> .

(9)

Gweler adran 36C(6) o Ddeddf 1989 i gael y diffiniad o “appropriate authority”.

(10)

O.S. 2000/1927 a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/1977 ac a ddirymwyd gan O.S. 2017/580 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a bennir yn rheoliad 42 o’r offeryn hwnnw.

(11)

O.S. 2013/1570 a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/580.