- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais amrywio, rhaid iddynt—
(a)ystyried a yw’n addas ar gyfer ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 5 ai peidio; a
(b)rhoi hysbysiad i’r ceisydd o dan baragraff (2) neu (6) o fewn tair wythnos o’i gael.
(2) Os na fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cais yn addas i’w gyhoeddi, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ceisydd—
(a)am eu penderfyniad a’r rhesymau am y penderfyniad hwnnw; a
(b)y caiff wneud sylwadau i Weinidogion Cymru gyda golwg ar ddarbwyllo Gweinidogion Cymru bod y cais yn addas i’w gyhoeddi.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddynt—
(a)pennu yn ysgrifenedig ddyddiad erbyn pryd y mae unrhyw sylwadau o dan baragraff (2)(b) i’w gwneud; a
(b)os bydd y ceisydd yn methu â gwneud sylwadau erbyn y dyddiad a bennir felly, rhoi hysbysiad gwrthod i’r ceisydd.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo’r ceisydd yn gwneud sylwadau i Weinidogion Cymru yn ychwanegol at hysbysiad a roddir iddo o dan baragraff (2)(b).
(5) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried sylwadau’r ceisydd—
(a)yn parhau i ystyried nad yw’r cais yn addas i’w gyhoeddi, rhaid iddynt roi hysbysiad pellach o dan baragraff (2) neu hysbysiad gwrthod; neu
(b)yn ystyried bod y cais yn addas i’w gyhoeddi, rhaid iddynt roi hysbysiad o dan baragraff (6).
(6) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cais yn addas i’w gyhoeddi, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ceisydd am eu penderfyniad.
(7) Pan fo—
(a)paragraff (6) yn gymwys; a
(b)cyrff y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “awdurdod cynllunio perthnasol” yn rheoliad 2—
(i)y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn debygol o fod â buddiant yn y cais; a
(ii)nad ydynt wedi eu nodi gan y ceisydd o dan reoliad 3(1)(e),
rhaid i Weinidogion Cymru nodi’r cyrff hynny yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (6).
(8) At ddibenion y rheoliad hwn, mae cais amrywio yn addas i’w gyhoeddi yn unol â rheoliad 5—
(a)mewn achos pan fo’n ofynnol llunio adroddiad AEA mewn cysylltiad â’r cais amrywio o dan y Rheoliadau AEA (am fod y cais ar gyfer datblygiad AEA o fewn ystyr y Rheoliadau hynny), os oes adroddiad AEA wedi ei ddarparu i [Weinidogion Cymru]; a
(b)os ymddengys i Weinidogion Cymru—
(i)bod y ceisydd yn dymuno adeiladu, gweithredu neu estyn gorsaf gynhyrchu mewn modd nad yw’r cydsyniad adran 36 perthnasol yn ei awdurdodi;
(ii)nad yw’r datblygiad arfaethedig yn wahanol i’r orsaf gynhyrchu y mae’r cydsyniad adran 36 perthnasol yn cyfeirio ato i’r graddau (o ran ei adeiladu, ei estyn, ei weithredu neu ei effaith amgylcheddol debygol) y mae awdurdodiad yn ofynnol ar ei gyfer gan—
(aa)gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad datblygu o fewn ystyr adran 31 o Ddeddf Cynllunio 2008(1) (pa bryd y mae cydsyniad datblygu yn ofynnol); neu
(bb)cydsyniad adran 36 newydd (yn hytrach nag amrywiad i’r cydsyniad adran 36 perthnasol); a
(iii)bod digon o wybodaeth yn y cais i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniad am y cais.
(9) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae i “adroddiad AEA” yr ystyr a roddir i “EIA report” yn y Rheoliadau AEA;
(b)ystyr “hysbysiad gwrthod” yw hysbysiad bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan adran 36C(4) o’r Ddeddf na fyddai’n briodol gwneud unrhyw amrywiad i’r cydsyniad adran 36 perthnasol.
2008 p. 29> .
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: