- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
18 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Chwefror 2019
Yn dod i rym
1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, sydd wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â’r gofyniad am asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae’n ymwneud â chynllunio gwlad a thref(2), drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno a chan adran 71A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2017” yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(4).
2.—(1) Mae Rheoliadau 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 65—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “(2) i (8)” rhodder “(2), (7) ac (8)”;
(b)yn lle paragraffau (2) i (6) rhodder—
“(2) Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith pan fo, cyn 16 Mai 2017—
(a)y ceisydd neu’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol neu wedi gofyn am farn gwmpasu mewn cysylltiad â’r datblygiad; neu
(b)mewn cysylltiad â—
(i)gorchmynion datblygu lleol;
(ii)gorchmynion adran 97;
(iii)gorchmynion adran 102; neu
(iv)cam gweithredu o dan adran 141 o Ddeddf 1990,
yr awdurdod cynllunio lleol, y corff cychwyn neu’r ceisydd wedi llunio datganiad amgylcheddol neu farn gwmpasu neu wedi gofyn am gyfarwyddyd cwmpasu mewn cysylltiad â’r gorchymyn neu’r cam gweithredu hwnnw.”;
(c)ym mharagraff (9), yn lle “(2) i (8)” rhodder “(2), (7) ac (8)”.
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn y lle priodol mewnosoder—
“mae i “llinell drydan” yr ystyr a roddir i “electric line” yn adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989(5).”
(4) Yn y tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2, ar ddiwedd pwnc 3 (Diwydiant ynni) mewnosoder—
“(k) Trosglwyddo ynni trydanol drwy geblau uwchben. | Datblygiad i ddarparu llinell drydan a osodir uwchben y ddaear sydd â foltedd enwol o 132 o gilofoltiau.” |
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Chwefror 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn amnewid y darpariaethau arbed a throsiannol ym mharagraffau (2) i (6) o reoliad 65 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2017 i ychwanegu gosod llinellau trydan uwchben penodol. Effaith y diwygiad hwn yw y gallai fod angen cynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â datblygiad o’r fath cyn rhoi caniatâd cynllunio.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
O.S. 2007/1679. Gweler erthygl 4.
1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 71A gan adran 15 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer y Ddeddf honno. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, ac yr oedd y swyddogaethau hynny yn swyddogaethau perthnasol y Cynulliad fel y’u diffinnir ym mharagraff 30(2).
O.S. 2017/567 (Cy. 136), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/1012 ac O.S. 2018/1216 (Cy. 249).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: