- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13.—(1) Rhaid i’r arolygydd, mewn cyfarfod rhagymchwiliad a gynhelir yn unol â rheoliad 10—
(a)trefnu amserlen ar gyfer y trafodion mewn ymchwiliad, neu mewn rhan o ymchwiliad; a
(b)pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw broflen dystiolaeth a chrynodeb a anfonir yn unol â rheoliad 18, ac unrhyw ddatganiad tir cyffredin a anfonir yn unol â rheoliad 19,
a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y dyddiad a bennir felly i bob person sydd â hawl i ymddangos.
(2) Rhaid i’r arolygydd, nid hwyrach na phedair wythnos cyn dechrau’r ymchwiliad, anfon copi o’r amserlen at bob person sydd â hawl i ymddangos.
(3) Pan na fo cyfarfod rhagymchwiliad yn cael ei gynnal—
(a)caiff yr arolygydd drefnu amserlen ar gyfer y trafodion mewn ymchwiliad, neu mewn rhan o ymchwiliad; a
(b)rhaid i’r arolygydd bennu’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw broflen dystiolaeth a chrynodeb a anfonir yn unol â rheoliad 18, ac unrhyw ddatganiad tir cyffredin a anfonir yn unol â rheoliad 19,
a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am yr amserlen, os oes un, a’r dyddiad a bennir felly, i bob person sydd â hawl i ymddangos o fewn deg wythnos o ddyddiad yr hysbysiad perthnasol.
(4) Caiff yr arolygydd ar unrhyw adeg amrywio’r amserlen a drefnir o dan y rheoliad hwn, a rhaid hysbysu pob person sydd â hawl i ymddangos am unrhyw newidiadau i’r amserlen.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: