- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
15.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff y dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru ar gyfer cynnal ymchwiliad fod yn ddiweddarach na—
(a)deg wythnos ar ôl i’r cyfarfod rhagymchwiliad ddod i ben, os cynhelir un;
(b)fel arall, ddeunaw wythnos o ddyddiad yr hysbysiad perthnasol.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’n ymarferol pennu dyddiad yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r dyddiad a bennir fod y dyddiad cynharaf y maent yn ystyried ei fod yn ymarferol.
(3) Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno ar gyfnod hysbysu byrrach gyda’r ceisydd ac unrhyw awdurdod cynllunio cymwys, rhaid iddynt roi dim llai na phedair wythnos o hysbysiad ysgrifenedig am y dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad i bob person sydd â hawl i ymddangos.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad, pa un a yw’r dyddiad a amrywir o fewn y cyfnod sy’n gymwys o dan baragraff (1) ai peidio.
(5) Mae paragraff (3) yn gymwys i ddyddiad a amrywir fel yr oedd yn gymwys i’r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad ar gyfer cynnal ymchwiliad, a rhaid iddynt roi unrhyw hysbysiad am unrhyw amrywiad yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.
(7) Cymerir bod hysbysiad ysgrifenedig wedi ei roi gan Weinidogion Cymru at ddibenion paragraff (3) pan fônt hwy ac unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos wedi cytuno y caiff y person hwnnw yn hytrach gyrchu hysbysiad am y materion a grybwyllir yn y paragraff hwnnw drwy wefan, a—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi’r hysbysiad hwnnw ar y wefan; a
(b)nid llai na phedair wythnos cyn y dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru ar gyfer cynnal yr ymchwiliad, yr hysbysir y person am—
(i)cyhoeddi’r hysbysiad ar y wefan;
(ii)cyfeiriad y wefan; a
(iii)ymhle ar y wefan y gellir cyrchu’r hysbysiad, a sut y gellir ei gyrchu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: