Dyddiad ymchwiliad a hysbysu am ymchwiliad15
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff y dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru ar gyfer cynnal ymchwiliad fod yn ddiweddarach na—
a
deg wythnos ar ôl i’r cyfarfod rhagymchwiliad ddod i ben, os cynhelir un;
b
fel arall, ddeunaw wythnos o ddyddiad yr hysbysiad perthnasol.
2
Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’n ymarferol pennu dyddiad yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r dyddiad a bennir fod y dyddiad cynharaf y maent yn ystyried ei fod yn ymarferol.
3
Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno ar gyfnod hysbysu byrrach gyda’r ceisydd ac unrhyw awdurdod cynllunio cymwys, rhaid iddynt roi dim llai na phedair wythnos o hysbysiad ysgrifenedig am y dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad i bob person sydd â hawl i ymddangos.
4
Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad, pa un a yw’r dyddiad a amrywir o fewn y cyfnod sy’n gymwys o dan baragraff (1) ai peidio.
5
Mae paragraff (3) yn gymwys i ddyddiad a amrywir fel yr oedd yn gymwys i’r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.
6
Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad ar gyfer cynnal ymchwiliad, a rhaid iddynt roi unrhyw hysbysiad am unrhyw amrywiad yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.
7
Cymerir bod hysbysiad ysgrifenedig wedi ei roi gan Weinidogion Cymru at ddibenion paragraff (3) pan fônt hwy ac unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos wedi cytuno y caiff y person hwnnw yn hytrach gyrchu hysbysiad am y materion a grybwyllir yn y paragraff hwnnw drwy wefan, a—
a
pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi’r hysbysiad hwnnw ar y wefan; a
b
nid llai na phedair wythnos cyn y dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru ar gyfer cynnal yr ymchwiliad, yr hysbysir y person am—
i
cyhoeddi’r hysbysiad ar y wefan;
ii
cyfeiriad y wefan; a
iii
ymhle ar y wefan y gellir cyrchu’r hysbysiad, a sut y gellir ei gyrchu.