- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
17.—(1) Y personau sydd â hawl i ymddangos gerbron ymchwiliad yw—
(a)y ceisydd;
(b)awdurdod cynllunio cymwys;
(c)unrhyw un neu ragor o’r cyrff a ganlyn os yw tir y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef wedi ei leoli yn ei ardal neu ei hardal ac nid hwythau yw’r awdurdod cynllunio perthnasol—
(i)bwrdd cydgynllunio a gyfansoddir o dan adran 2(1B) o Ddeddf 1990(1) (byrddau cydgynllunio);
(ii)corfforaeth datblygu trefol a sefydlir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn o dan adran 135(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980(2) (corfforaethau datblygu trefol);
(d)gwrthwynebydd cymwys sydd wedi dychwelyd ffurflen gofrestru yn unol â rheoliad 6(4)(a);
(e)unrhyw berson arall sydd wedi anfon datganiad achos yn unol â rheoliad 12(2).
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal yr arolygydd rhag caniatáu i unrhyw berson arall ymddangos gerbron ymchwiliad, ac ni chaniateir atal caniatâd o’r fath yn afresymol.
(3) Caiff unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos gerbron ymchwiliad neu y caniateir iddo ymddangos wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.
(4) Caiff arolygydd ganiatáu i un person neu ragor ymddangos er budd rhai o’r personau, neu’r holl bersonau, sydd â buddiant tebyg yn y mater sy’n destun ymchwiliad.
Diwygiwyd is-adran (1) gan baragraff 1 o Atodlen 18 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a mewnosodwyd is-adran (1B) yn adran 2 gan adran 19(1) o’r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: