Ymddangos gerbron ymchwiliad17
1
Y personau sydd â hawl i ymddangos gerbron ymchwiliad yw—
a
y ceisydd;
b
awdurdod cynllunio cymwys;
c
unrhyw un neu ragor o’r cyrff a ganlyn os yw tir y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef wedi ei leoli yn ei ardal neu ei hardal ac nid hwythau yw’r awdurdod cynllunio perthnasol—
i
bwrdd cydgynllunio a gyfansoddir o dan adran 2(1B) o Ddeddf 199011 (byrddau cydgynllunio);
ii
corfforaeth datblygu trefol a sefydlir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn o dan adran 135(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 198012 (corfforaethau datblygu trefol);
d
gwrthwynebydd cymwys sydd wedi dychwelyd ffurflen gofrestru yn unol â rheoliad 6(4)(a);
e
unrhyw berson arall sydd wedi anfon datganiad achos yn unol â rheoliad 12(2).
2
Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal yr arolygydd rhag caniatáu i unrhyw berson arall ymddangos gerbron ymchwiliad, ac ni chaniateir atal caniatâd o’r fath yn afresymol.
3
Caiff unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos gerbron ymchwiliad neu y caniateir iddo ymddangos wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.
4
Caiff arolygydd ganiatáu i un person neu ragor ymddangos er budd rhai o’r personau, neu’r holl bersonau, sydd â buddiant tebyg yn y mater sy’n destun ymchwiliad.