Ymddangos gerbron ymchwiliad

17.—(1Y personau sydd â hawl i ymddangos gerbron ymchwiliad yw—

(a)y ceisydd;

(b)awdurdod cynllunio cymwys;

(c)unrhyw un neu ragor o’r cyrff a ganlyn os yw tir y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef wedi ei leoli yn ei ardal neu ei hardal ac nid hwythau yw’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(i)bwrdd cydgynllunio a gyfansoddir o dan adran 2(1B) o Ddeddf 1990(1) (byrddau cydgynllunio);

(ii)corfforaeth datblygu trefol a sefydlir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn o dan adran 135(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980(2) (corfforaethau datblygu trefol);

(d)gwrthwynebydd cymwys sydd wedi dychwelyd ffurflen gofrestru yn unol â rheoliad 6(4)(a);

(e)unrhyw berson arall sydd wedi anfon datganiad achos yn unol â rheoliad 12(2).

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal yr arolygydd rhag caniatáu i unrhyw berson arall ymddangos gerbron ymchwiliad, ac ni chaniateir atal caniatâd o’r fath yn afresymol.

(3Caiff unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos gerbron ymchwiliad neu y caniateir iddo ymddangos wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.

(4Caiff arolygydd ganiatáu i un person neu ragor ymddangos er budd rhai o’r personau, neu’r holl bersonau, sydd â buddiant tebyg yn y mater sy’n destun ymchwiliad.

(1)

Diwygiwyd is-adran (1) gan baragraff 1 o Atodlen 18 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a mewnosodwyd is-adran (1B) yn adran 2 gan adran 19(1) o’r Ddeddf honno.