Proflenni tystiolaeth18

1

Rhaid i unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos sy’n bwriadu rhoi tystiolaeth, neu alw person arall i roi tystiolaeth, yn yr ymchwiliad drwy ddarllen proflen dystiolaeth anfon dau gopi o’r broflen dystiolaeth (yn achos awdurdod cynllunio cymwys â’r ceisydd) neu dri chopi (yn unrhyw achos arall) at Weinidogion Cymru.

2

Pan fo copi o broflen dystiolaeth a anfonir o dan baragraff (1) yn cynnwys mwy na 1,500 o eiriau, rhaid i grynodeb ysgrifenedig fynd gydag ef, ac ni chaiff y crynodeb hwnnw gynnwys mwy na 1,500 o eiriau, oni bai bod yr arolygydd yn caniatáu fel arall.

3

Pan fo person yn anfon copïau o broflen dystiolaeth a chrynodeb (os oes un), rhaid i’r person hwnnw ar yr un pryd anfon copi at bob person arall y mae’r person hwnnw yn gwybod bod ganddynt hawl i ymddangos, oni bai bod person o’r fath wedi nodi yn ysgrifenedig nad oes angen anfon copi ato.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru gael y broflen dystiolaeth ac unrhyw grynodeb nid hwyrach na’r dyddiad a bennir gan yr arolygydd yn unol â rheoliad 13(1)(b) neu reoliad 13(4)(b), a chyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, rhaid i Weinidogion Cymru adneuo pob proflen dystiolaeth o’r fath a phob crynodeb o’r fath.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru anfon at yr arolygydd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, unrhyw broflen dystiolaeth ynghyd ag unrhyw grynodeb a anfonir atynt yn unol â’r rheoliad hwn.

6

Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddo anfon copïau o broflen dystiolaeth at Weinidogion Cymru anfon yr un nifer o gopïau o unrhyw ddogfen gyfan y cyfeirir ati yn y broflen dystiolaeth, neu’r rhan berthnasol o unrhyw ddogfen o’r fath, gyda’r proflenni tystiolaeth hynny, oni bai bod copi o’r ddogfen neu ran o’r ddogfen dan sylw eisoes ar gael i edrych arno yn unol â rheoliad 12(13).

7

Caiff Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd ei gwneud yn ofynnol yn ysgrifenedig i unrhyw berson sydd wedi anfon copi o broflen dystiolaeth neu grynodeb yn unol â’r rheoliad hwn ddarparu’r nifer hwnnw o gopïau ychwanegol o’r broflen neu’r crynodeb a bennir ganddynt, a rhaid iddynt bennu o fewn pa gyfnod y mae rhaid iddynt gael y copi o’r broflen neu’r crynodeb.

8

Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ddarparu copïau ychwanegol sicrhau bod Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd yn cael y copïau hynny o fewn y cyfnod penodedig.