Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae “arolygydd” (“inspector”) yn cynnwys arolygydd arweiniol ac arolygydd ychwanegol;

  • ystyr “arolygydd arweiniol” (“lead inspector”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad neu ymchwiliad a ailagorir;

  • ystyr “arolygydd ychwanegol” (“additional inspector”) yw arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7(2)(a);

  • ystyr “asesydd” (“assessor”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i eistedd gydag arolygydd mewn ymchwiliad neu ymchwiliad a ailagorir i gynghori’r arolygydd ynghylch unrhyw faterion sy’n codi a bennir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “awdurdod â buddiant” (“interested authority”) yw unrhyw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru y mae’r ceisydd wedi cyflwyno hysbysiad am y cais iddo yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad;

  • ystyr “awdurdod cynllunio cymwys” (“qualifying planning authority”) yw—

    1. a

      pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 9(1) o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad, unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol sydd wedi gwrthwynebu’r cais yn unol â rheoliad 8(2) o’r Rheoliadau hynny ac nad yw ei wrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl;

    2. b

      pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau, unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol, os yw wedi cyflwyno sylwadau (nad ydynt wedi eu tynnu yn ôl) yn gwrthwynebu cais i amrywio;

  • mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr un ystyr ag a roddir i “local planning authority” yn Rhan I o Ddeddf 1990;

  • mae i “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”) yn achos—

    1. a

      ymchwiliad i gais, yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad;

    2. b

      ymchwiliad i gais i amrywio, yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau;

  • ystyr “cais” (“application”), ac eithrio pan fo ystyr arall yn ofynnol yn ôl y cyd-destun, yw cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad o dan adran 362 i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu3, ynghyd ag unrhyw gais o dan adran 36A4 am ddatganiad sy’n ymwneud â hawliau mordwyo a wneir gyda’r cais o dan adran 36;

  • mae i “cais i amrywio” (“variation application”) yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau;

  • ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw’r person sy’n gwneud cais neu gais i amrywio;

  • ystyr “cyfarfod rhagymchwiliad” (“pre-inquiry meeting”) yw cyfarfod a gynhelir cyn ymchwiliad i ystyried beth y gellir ei wneud gyda’r nod o sicrhau y cynhelir yr ymchwiliad yn effeithlon ac yn hwylus, a phan gynhelir dau neu ragor o’r cyfarfodydd hynny ynghylch yr un ymchwiliad, mae cyfeiriadau at gyfarfod rhagymchwiliad yn dod i ben yn gyfeiriadau at y cyfarfod rhagymchwiliad terfynol yn dod i ben;

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20005;

  • ystyr “cyfryngwr” (“mediator”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9;

  • ystyr “cynghorydd technegol” (“technical adviser”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8;

  • ystyr “datblygiad adran 90” (“section 90 development”) yw unrhyw ddatblygiad y mae’r ceisydd, wrth wneud cais neu gais i amrywio, yn gofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan adran 90(2) neu (2ZA) o Ddeddf 19906 (caniatâd cynllunio tybiedig ar gyfer datblygu gydag awdurdodiad llywodraeth) mewn cysylltiad ag ef;

  • ystyr “datganiad achos” (“statement of case”) yw datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys—

    1. a

      manylion llawn yr achos y mae person yn bwriadu ei gyflwyno mewn ymchwiliad;

    2. b

      rhestr o unrhyw ddogfennau y mae’r person hwnnw yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;

    3. c

      rhestr o’r unigolion y mae’r person hwnnw yn bwriadu eu galw fel tystion; a

    4. d

      pwnc tystiolaeth pob un o’r tystion hynny;

  • ystyr “datganiad amlinellol” (“outline statement”) yw datganiad ysgrifenedig o’r prif sylwadau y mae person yn bwriadu eu cyflwyno mewn ymchwiliad;

  • ystyr “datganiad tir cyffredin” (“statement of common ground”) yw datganiad ysgrifenedig a lunnir ar y cyd gan yr awdurdod cynllunio perthnasol (pan fo’n awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru) a’r ceisydd, sy’n cynnwys gwybodaeth ffeithiol gytunedig am y cynnig sy’n destun y cais neu’r cais i amrywio;

  • ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 19907;

  • mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

  • ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”) mewn perthynas â hysbysiad, yw drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn un papur newydd o leiaf, fel bod yr hysbysiad yn debygol o ddod i sylw’r rheini sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y cydsyniad y gwneir cais amdano os y’i rhoddir;

  • ystyr “ffurflen gofrestru” (“registration form”) yw ffurflen i’w chwblhau gan bersonau sy’n dymuno cymryd rhan yn yr ymchwiliad;

  • ystyr “gwrthwynebydd cymwys” (“qualifying objector”) yw—

    1. a

      pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 9(1) neu 10 o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad, unrhyw un a wrthwynebodd y cais erbyn y dyddiad y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 8(1) o’r Rheoliadau hynny ac yn y dull y darperir ar ei gyfer yn y rheoliad hwnnw;

    2. b

      pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniad, unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau yn gwrthwynebu’r cais i amrywio erbyn y dyddiad y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 5(6)(b)(iii) o’r Rheoliadau hynny,

  • ac nad yw ei wrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl;

  • ystyr “hysbysiad perthnasol” (“relevant notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru o dan reoliad 4(1);

  • ystyr “lle” (“place”), oni bai bod ystyr arall yn ofynnol yn unol â’r cyd-destun, yw’r lle y mae ymchwiliad yn ymwneud ag ef, hynny yw, y lle—

    1. a

      y bwriedir adeiladu’r orsaf gynhyrchu, y lle y bydd yr estyniad arfaethedig neu’r lle y mae’r orsaf y bwriedir ei gweithredu wedi ei lleoli; a

    2. b

      y bydd unrhyw ddatblygiad adran 90 wedi ei leoli.

  • ystyr “person sydd â hawl i ymddangos” (“person entitled to appear”) yw person a ddisgrifir yn rheoliad 17(1), ac mae ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “y Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau” (“the Variation of Consents Regulations”) yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 20198;

  • ystyr “y Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad” (“the Applications for Consent Regulations”) yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 20199;

  • ystyr “ymchwiliad” (“inquiry”) yw ymchwiliad y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ef; a phan fo ymchwiliad yn cael ei gynnal drwy sesiynau cydredol, mae’n cynnwys unrhyw sesiwn o’r fath.

2

Oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o Ddeddf Trydan 1989.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar Weinidogion Cymru neu’r arolygydd i gylchredeg dogfen wedi ei fodloni drwy anfon copi o’r ddogfen honno—

a

i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

b

at y ceisydd; ac

c

at bob gwrthwynebydd cymwys sydd wedi nodi yn unol â rheoliad 6(4)(b)(iv) ei fod yn debygol o fod eisiau cael ei gynrychioli yn ffurfiol a chwarae rhan sylweddol yn yr ymchwiliad.

4

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar Weinidogion Cymru neu’r arolygydd i adneuo dogfen wedi ei fodloni drwy anfon copi ohoni—

a

yn achos ymchwiliad i gais—

i

pan fo rhan o’r man y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol, i’r awdurdod cynllunio perthnasol; neu

ii

pan na fo unrhyw ran o’r man y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol, i’r awdurdod â buddiant; a

b

yn achos ymchwiliad i gais i amrywio, i unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol sy’n awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru.

5

Nid oes dim ym mharagraff (3) neu (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru neu’r arolygydd anfon copi o ddogfen at y person y cafwyd y ddogfen oddi wrtho.

6

Mae gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi hysbysiad ar wefan wedi ei fodloni—

a

drwy gyhoeddi’r hysbysiad, neu’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiad hwnnw, ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru; neu

b

drwy gyhoeddi dolen ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru i wefan arall lle y mae’r hysbysiad wedi ei gyhoeddi neu lle y mae’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiad hwnnw wedi eu cyhoeddi.