Anfon hysbysiadau ac edrych ar ddogfennau27

1

Caniateir anfon hysbysiadau neu ddogfennau y mae’n ofynnol eu hanfon neu yr awdurdodir eu hanfon o dan y Rheoliadau hyn—

a

drwy’r post; neu

b

drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig i anfon neu gyflenwi’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson yn y cyfeiriad hwnnw a bennir am y tro gan y person at y diben hwnnw.

2

Pan fo rhwymedigaeth ar awdurdod cynllunio perthnasol neu, yn ôl y digwydd, awdurdod â buddiant, i roi cyfle i unrhyw berson sy’n gofyn am hynny edrych ar unrhyw ddogfen a chymryd copïau o unrhyw ddogfen, tybir bod cyfle wedi ei roi i berson pan fo’r person yn cael ei hysbysu am—

a

cyhoeddi’r ddogfen berthnasol ar wefan;

b

cyfeiriad y wefan; ac

c

ymhle ar y wefan y gellir cyrchu’r ddogfen, a sut y gellir ei chyrchu.