- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig—
(a)mae’r ymadrodd “cyfeiriad” yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath, ac eithrio pan fo unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, nid yw’r gofyniad wedi ei fodloni oni bai bod y person sy’n ddarostyngedig i’r gofyniad yn darparu cyfeiriad post;
(b)mae cyfeiriadau at ddatganiadau, hysbysiadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o’r dogfennau hynny, yn cynnwys cyfeiriadau at y dogfennau hynny, neu gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.
(2) Mae paragraffau (3) i (7) yn gymwys pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio gan berson at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o ofynion y Rheoliadau hyn i roi neu anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall at unrhyw berson arall (“y derbynnydd”).
(3) Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r datganiad, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—
(a)yn un y gall y derbynnydd ei gyrchu neu ei chyrchu;
(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ato neu ati yn nes ymlaen.
(4) Ym mharagraff (3), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol” yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y datganiad, yr hysbysiad neu’r ddogfen ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(5) Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac at y diben hwn ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1).
(6) Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod rhaid i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno yn bodloni’r meini prawf ym mharagraff (3).
(7) Caniateir cydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall drwy drosglwyddo un copi yn unig o’r datganiad, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall dan sylw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: