4.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon y canlynol yn ysgrifenedig at y ceisydd a’r awdurdod cynllunio perthnasol—
(a)hysbysiad bod ymchwiliad i’w gynnal;
(b)hysbysiad y bydd cyfarfod rhagymchwiliad neu hysbysiad eu bod wedi penderfynu peidio â chynnal cyfarfod o’r fath yn unol â rheoliad 10(2); ac
(c)datganiad ynghylch y materion sydd, yn eu barn hwy, yn faterion i’w hystyried yn yr ymchwiliad.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg addasu’r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) ac os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt anfon y datganiad addasedig at y ceisydd, a rhaid i’r ceisydd gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad o’r addasiad a wneir.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi addasu’r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) o dan baragraff (2), rhaid iddynt gyhoeddi hysbysiad ar wefan am yr addasiad a wneir.