- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl dyroddi hysbysiad perthnasol, anfon at bob person sydd â hawl i ymddangos neu bob person y gwyddant bod ganddynt fuddiant yn y cynnig, gopi o’r datganiad a anfonir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(1)(c) a ffurflen gofrestru yn y ffurf y darperir ar ei chyfer ym mharagraff (4).
(2) Ar ôl cael yr hysbysiad perthnasol, rhaid i’r ceisydd gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad yn datgan—
(a)bod y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ymchwiliad;
(b)y materion sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad a anfonir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(1)(c);
(c)y trefniadau ar gyfer y cyfarfod rhagymchwiliad cyntaf, os oes un; a
(d)bod rhaid i bersonau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr ymchwiliad gael ffurflen gofrestru oddi wrth Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraff (2), gyhoeddi’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ar wefan.
(4) Rhaid i’r ffurflen gofrestru—
(a)cynnwys y cyfeiriad y mae rhaid dychwelyd ffurflenni wedi eu llenwi iddo a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid gwneud hynny, na chaiff fod yn ddim hwyrach nag wyth wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad perthnasol;
(b)gofyn am yr wybodaeth a ganlyn—
(i)enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person sy’n cofrestru;
(ii)enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw asiant, neu, yn achos sefydliad, y person cyswllt;
(iii)pa un a oes gan y person sy’n cofrestru fuddiant ai peidio yn unrhyw dir y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef a gaiff ei effeithio gan y cynnig;
(iv)pa un a yw’r person sy’n cofrestru yn debygol o fod eisiau cael ei gynrychioli yn ffurfiol a chwarae rhan sylweddol yn yr ymchwiliad ai peidio;
(v)os na fydd yn debygol o fod eisiau hynny, pa un a yw’r person sy’n cofrestru yn dymuno rhoi tystiolaeth lafar yn yr ymchwiliad ai peidio, neu ond yn dymuno cyflwyno sylwadau ysgrifenedig; ac
(c)gofyn bod dau gopi o ddatganiad amlinellol gan y person sy’n cofrestru yn mynd gyda’r ffurflen gofrestru wedi ei llenwi.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid dychwelyd y ffurflen gofrestru o dan baragraff (4)(a), gylchredeg pob datganiad amlinellol a geir ganddynt fel y crybwyllir ym mharagraff (4)(c).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: