Cofrestru6
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl dyroddi hysbysiad perthnasol, anfon at bob person sydd â hawl i ymddangos neu bob person y gwyddant bod ganddynt fuddiant yn y cynnig, gopi o’r datganiad a anfonir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(1)(c) a ffurflen gofrestru yn y ffurf y darperir ar ei chyfer ym mharagraff (4).
2
Ar ôl cael yr hysbysiad perthnasol, rhaid i’r ceisydd gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad yn datgan—
a
bod y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ymchwiliad;
b
y materion sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad a anfonir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(1)(c);
c
y trefniadau ar gyfer y cyfarfod rhagymchwiliad cyntaf, os oes un; a
d
bod rhaid i bersonau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr ymchwiliad gael ffurflen gofrestru oddi wrth Weinidogion Cymru.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraff (2), gyhoeddi’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ar wefan.
4
Rhaid i’r ffurflen gofrestru—
a
cynnwys y cyfeiriad y mae rhaid dychwelyd ffurflenni wedi eu llenwi iddo a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid gwneud hynny, na chaiff fod yn ddim hwyrach nag wyth wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad perthnasol;
b
gofyn am yr wybodaeth a ganlyn—
i
enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person sy’n cofrestru;
ii
enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw asiant, neu, yn achos sefydliad, y person cyswllt;
iii
pa un a oes gan y person sy’n cofrestru fuddiant ai peidio yn unrhyw dir y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef a gaiff ei effeithio gan y cynnig;
iv
pa un a yw’r person sy’n cofrestru yn debygol o fod eisiau cael ei gynrychioli yn ffurfiol a chwarae rhan sylweddol yn yr ymchwiliad ai peidio;
v
os na fydd yn debygol o fod eisiau hynny, pa un a yw’r person sy’n cofrestru yn dymuno rhoi tystiolaeth lafar yn yr ymchwiliad ai peidio, neu ond yn dymuno cyflwyno sylwadau ysgrifenedig; ac
c
gofyn bod dau gopi o ddatganiad amlinellol gan y person sy’n cofrestru yn mynd gyda’r ffurflen gofrestru wedi ei llenwi.