xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cofrestru

6.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl dyroddi hysbysiad perthnasol, anfon at bob person sydd â hawl i ymddangos neu bob person y gwyddant bod ganddynt fuddiant yn y cynnig, gopi o’r datganiad a anfonir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(1)(c) a ffurflen gofrestru yn y ffurf y darperir ar ei chyfer ym mharagraff (4).

(2Ar ôl cael yr hysbysiad perthnasol, rhaid i’r ceisydd gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad yn datgan—

(a)bod y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ymchwiliad;

(b)y materion sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad a anfonir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(1)(c);

(c)y trefniadau ar gyfer y cyfarfod rhagymchwiliad cyntaf, os oes un; a

(d)bod rhaid i bersonau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr ymchwiliad gael ffurflen gofrestru oddi wrth Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraff (2), gyhoeddi’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ar wefan.

(4Rhaid i’r ffurflen gofrestru—

(a)cynnwys y cyfeiriad y mae rhaid dychwelyd ffurflenni wedi eu llenwi iddo a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid gwneud hynny, na chaiff fod yn ddim hwyrach nag wyth wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad perthnasol;

(b)gofyn am yr wybodaeth a ganlyn—

(i)enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person sy’n cofrestru;

(ii)enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw asiant, neu, yn achos sefydliad, y person cyswllt;

(iii)pa un a oes gan y person sy’n cofrestru fuddiant ai peidio yn unrhyw dir y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef a gaiff ei effeithio gan y cynnig;

(iv)pa un a yw’r person sy’n cofrestru yn debygol o fod eisiau cael ei gynrychioli yn ffurfiol a chwarae rhan sylweddol yn yr ymchwiliad ai peidio;

(v)os na fydd yn debygol o fod eisiau hynny, pa un a yw’r person sy’n cofrestru yn dymuno rhoi tystiolaeth lafar yn yr ymchwiliad ai peidio, neu ond yn dymuno cyflwyno sylwadau ysgrifenedig; ac

(c)gofyn bod dau gopi o ddatganiad amlinellol gan y person sy’n cofrestru yn mynd gyda’r ffurflen gofrestru wedi ei llenwi.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid dychwelyd y ffurflen gofrestru o dan baragraff (4)(a), gylchredeg pob datganiad amlinellol a geir ganddynt fel y crybwyllir ym mharagraff (4)(c).