- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Ar unrhyw adeg ar ôl penodi’r arolygydd arweiniol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r arolygydd arweiniol i—
(a)ystyried unrhyw faterion sy’n ymwneud â chynnal yr ymchwiliad a bennir yn y cyfarwyddyd;
(b)gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch y materion hynny.
(2) Ar ôl ystyried argymhellion yr arolygydd arweiniol, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)penodi at ddibenion yr ymchwiliad y nifer hwnnw o arolygwyr ychwanegol y maent yn meddwl sy’n briodol; a
(b)cyfarwyddo bod rhaid i bob arolygydd ychwanegol ystyried unrhyw faterion y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â hwy a ddyrennir i’r arolygydd ychwanegol hwnnw gan yr arolygydd arweiniol.
(3) Rhaid i arolygydd ychwanegol—
(a)cydymffurfio â phob cyfarwyddyd o ran materion gweithdrefnol a roddir i’r arolygydd ychwanegol hwnnw gan yr arolygydd arweiniol; a
(b)cyflwyno adroddiad i’r arolygydd arweiniol ar bob mater a ddyrennir i’r arolygydd ychwanegol hwnnw.
(4) Rhaid i’r arolygydd arweiniol gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar yr ystyriaeth a roddwyd i—
(a)y materion y mae’r arolygydd arweiniol wedi eu hystyried; a
(b)y materion a ddyrannwyd i’r arolygwyr ychwanegol i’w hystyried.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r arolygydd arweiniol ar un achlysur neu ragor ar ôl penodi’r arolygydd arweiniol.
(6) Mae’r argymhellion y caiff yr arolygydd arweiniol eu gwneud yn dilyn rhoi cyfarwyddyd yn cynnwys, yn enwedig, argymhelliad i amrywio nifer yr arolygwyr ychwanegol.
(7) Mae pŵer Gweinidogion Cymru i benodi arolygydd ychwanegol yn cynnwys pŵer i ddirymu penodiad.
(8) Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn drwy gyfarwyddyd dilynol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: